Rennardiaeth*
Roeddwn i ffwrdd o'r gwaith wythnos ddiwethaf. Mae cyfran helaeth o fy amser heddiw felly yn cael ei wario'n palu fy ffordd trwy e-byst. Ar ôl cael gwared ar hysbysebion am oriorau a Viagra ac ambell i gynnig busnes diddorol o Nigeria beth sy'n weddill?
Wel weithiau mae'n ddiddorol gweld pethau cefn wrth gefn.
Dyma i chi ddatganiad newyddion gan y Democratiaid Rhyddfrydol o ddydd Mawrth diwethaf pan oedd y blaid yn rhagweld cyhoeddiad ynghylch trydaneiddio'r lein rheilffordd o Lundain i Gaerdydd..
"The opportunity for electrification on to Swansea is here now but will not last for long. Electrification to Cardiff is welcome but would be an incomplete job... This would be a big snub to Ieuan Wyn Jones and his week old Transport plan. After the M4 fiasco, he was banking on a high speed route stretching across the country. This would be hugely embarrassing for him and his department."
Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach, ar ôl y cyhoeddiad y byddai'r cynllun trydaneiddio yn ymestyn yr holl ffordd i Abertawe, cafwyd ail ddatganiad.
"The Liberal Democrats have asked been asking for electrification for years and it is good to see that we have been listened to."
Gadewch i fi ddeall yn iawn. Pe na bai'r lein i Abertawe wedi ei thrydaneiddio fe fyddai hynny'n "hugely embarrassing" i Ieuan Wyn Jones. Mae'r ffaith y bydd y lein yn cael ei thrydaneiddio yn fuddugoliaeth i bwy? Y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs!
Fe ddylai bois y wasg yn swyddfa'r blaid gofalu nad yw eu hobsesiwn ynghylch y dirprwy brif weinidog yn eu dallu i'r angen am gysondeb!
*Rennardiaeth yw fy nghyfieithiad i o "Rennardism". Dyma ddiffiniad y "New Statesman" o'r gair; "the non-philosophy, pioneered by the party's campaigns chief, Lord Rennard, whereby first principles are routinely sacrificed to a cynical emphasis on dog mess and leisure-centre closures."
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n struglo i deall pam mae Libs yn troi yn erbyn Rennard. Mae nhw wedi llwyddo i cynyddu ei nifer o ASau tra fod ei bleidlais yn gostwng. Mae hynny'n impressive iawn ac yn dangos tactegau gwych.
Y broblem yw nad oes genddynt unrhyw eidioleg gwreiddiol. "Beth yw pwynt y Lib Dems"? Yw'r cwestiwn mae nhw'n merthu ag ateb. Dim bae y prifweithredwr yw hynny, bae y gwleidyddion yw o. Os ydych yn gofyn i unrhywun yn y stryd beth yw prif syniadau y blaid yna yr unig pethau byddynt yn gallu meddwl amdanynt (o bosib) yw "1p on income tax", "Against Iraq War" a "Scrapping tuition fees". Mae dau o rhain nawr wedi cael ei gollwng gan y Blaid ac mae'r filwyr nawr yn gadael Irac.
Mae Rennard wedi wneud job anhygoel o werthu "product" gwael. Job Nick (a Kirsty) yw gwella'r product yma.