Rhwydweithio
Roedd canlyniad is-etholiad ddoe yn ddiddorol- yn enwedig oherwydd y gefnogaeth i bleidiau fel UKIP a'r Blaid Werdd. Ydy hi'n bosib i'r Gwyrddion ennill sedd yn yr etholiad cyffredinol? Efallai.
Natural Choices
Mwy gan Flogmenai
BlogMenai
Gyda llaw, beth ar y ddaear sydd wedi digwydd i'r is-etholiad arall y mae pawb yn disgwyl?
Scotsman
Dyw is-etholiadau difyr yn ddim byd newydd wrth gwrs!
Independent
Hefyd ar safle'r Independent mae Mabiblogion yn dirmygu rhai o'r syniadau ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru- yn enwedig rhai Huw Lewis.
Independent Minds
SylwadauAnfon sylw
Deall fod Val Feld wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y Cynulliad. Beth yw cyfanswm y rhai sydd wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi gorau iddi hyd yma ? A fydd mwy yn gadael ? Beth fydd effaith hyn os o gwbl ar ddewis olynydd i Rhodri ?
Rwy'n cymryd mai Val Lloyd wyt ti'n meddwl. Doeddwn i ddim wedi clywed hynny ond dydw i ddim yn y gwaith a llafur cariad yw'r blog yr wythnos hon!
Off top fy mhen ar y meinciau Llafur mae Irene James, Brian Gibbons a Jane Davidson wedi cyhoeddi eu bwriad i ymddeol. Dydw i ddim yn gwybod beth yw sefyllfa Karen Sinclair sy'n absennol o'r cynulliad oherwydd ei hiechyd. Fe fydd Rhodri hefyd yn gadael wrth gwrs.
Ymhlith y pleidiau eraill mae Mick Bates wedi cyhoeddi ei fwriad i adael. Dydw i ddim yn sicr os ydy Mike German wedi gwneud cyhoeddiad eto. Mae Alun Cairns yn ymgeisio am (ac yn debyg o ennill) sedd yn San Steffan. Gyda rhagor o gyhoeddiadau i ddod a chyda seddi yn sicr o newid dwylo rwy'n tybio y bydd chwarter i draean o aelodau'r cynulliad nesaf yn rhai newydd- sefyllfa digon iach mewn cynulliad more fach yn fy marn i.
Ia ti'n iawn fel arfer. Peth peryglus ydi blogio a yfed gwin yr un pryd !!