Rialtwch
I ble'r awn am y ffilmiau'r wythnos hon? Beth am siop Waterstone's yn Abertawe? Mae'n siop lyfrau yn awr ond sylwch beth sydd uwchben y drws. Dyma un o drysorau art-deco Cymru ac un o'r ychydig o berlau pensaernïol Abertawe i oroesi bomio'r ddinas. Sinema'r Carlton oedd hon. Mae'r adeilad wedi rhestri ond does dim ffilmiau wedi cael eu dangos ers y saithdegau. Tan heddiw, hynny yw! Gafaeliwch yn eich Kia-Ora a bant a ni!
Alwyn wnaeth awgrymu'r wers addysg rhyw yma.
Mae gan Myrdd obsesiwn ynghylch gwaith Elmo5242. Dyma Elmo yr athro Cymraeg.
A dyma Elmo yn canu deuawd... gyda fe'i hun!
Awgrym "O bell" yw'r ffilm olaf sy ein hatgoffa o'r dyddiau pan oedd newyddiadurwyr yn dangos y parch dyledus tuag at wleidyddion.
SylwadauAnfon sylw
These all videos are very nice.i enjoy to its.it really a great idea to sharing this videos