Ailgylchu- Gorffenaf 2008
Mae'r sefyllfa posib y soniais amdano flwyddyn yn ôl hyd yn oed yn fwy tebygol nawr. Meddyliwch am fyd lle mae'r gwleidydd Llafur mwyaf grymus ym Mhrydain yw Carwyn Jones, Huw Lewis neu... Jane Hutt ! Cyfeiriad at glymblaid yr 'enfys' yw'r paragraff olaf.
Arglwydd Faer Brisbane
Does dim byd arbennig iawn am Brisbane, prifddinas talaith Queensland yn Awstralia ond mae ei Harglwydd Faer yn ddyn o bwys!
Os ydych chi'n chwilio ar y we gallwch ddarganfod fod gan Campbell Newman ddau
lysenw "can-do Campbell" (ei slogan etholiadol) a "Noddy"- ei lysenw yn y fyddin. Mae'n briod a chafodd ei hyfforddi fel peiriannydd sifil.
Beth sy'n arbennig am Mr Newman felly? Wel, dim ond hyn. Ar ôl i'r Rhyddfrydwr John Howard golli grym yn Canberra llynedd, a chyda Llafur yn llywodraethu ym mhob un dalaith a dinas fawr arall Mr Newman oedd y Rhyddfrydwyr pwysicaf i barhau mewn grym.
Dw'n i ddim p'un ai oedd Mr Newman yn mwynhau ei statws ai peidio ond mae'n anodd credu nad oedd e'n cael rhiw faint o gic o glywed ei hun yn cael ei ddisgrifio fel " the most senior elected Liberal in Australia".
Ta beth am hynny. Fe wnaeth hyn fy nharo'r dydd o'r blaen. Gallai Rhodri Morgan nei ei olynydd fod yn yr un sefyllfa a Campbell Newman pe bai Llafur yn colli grym yn San Steffan. Gyda'r SNP yn rheoli yn Holyrood a Boris yn teyrnasu yn Llundain, Prif Weinidog Cymru, mae'n debyg, fyddai'r gwleidydd Llafur etholedig mwyaf grymus ym Mhrydain!
Fyddai na ddim mwy o'r busnes "gwthio i'r cyrion" yna mewn cynadleddau Llafur, dim mwy o orfod goddef y cryts ffroenuchel o rif deg yn ei siwtiau siarp a dim angen gwrando bellach ar frefi aelodau meinciau cefn Llafur yn San Steffan.
Mae'n anodd credu na fyddai na wen fach slei ar wyneb Prif Weinidog Cymru wrth glywed y disgrifiad "the most senior elected Labour politician in Britain"!
Cofiwch pe bai pethau wedi digwydd ychydig bach yn wahanol flwyddyn yn ôl fe fyddai rhywbeth hyd yn oed yn fwy rhyfedd wedi digwydd. Am gyfnod o leiaf fe fyddai Nick Bourne wedi gallu brolio mai ef oedd Y Ceidwadwr etholedig pwysicaf!