Dos allan i chwarae, Nigel
Nid Alan Duncan yw'r unig geidwadwr i gael ei ddal allan ar fideo heddiw. Mae'r tâp wnaeth achosi cymaint o embaras i'r aelod mainc flaen hefyd yn cynnwys ambell i sylwad gan y Ceidwadwr hoffus Nigel Evans.
Cafodd aelod Ribble Valley, sy'n berchen siop bapurau newydd yn Abertawe, ei ddal gyda phlât o frechdanau yn ei law. Mae'n sicr mai cellwair oedd e wrth ddweud hyn;
"I made these myself, it's my second job. Got to have a second income, mate, couldn't survive on 64."
O diar. Mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau wrth i Nigel brynu rownd o ddiodydd.
"This is what it's come to now. Actually, I'm paying, that's what it's come to." meddai.
Wrth feddwl am y peth pan oedd Nigel yn gwneud ei wleidydda yng Nghymru doedd e ddim yn barod iawn i estyn i'w boced. Roedd hi'n ffodus bod y bythol hael Bill Hughes wastad wrth ei ysgwydd!
Mae Nigel ar y dde yn y llun gyda llaw!