Na ddidolir rhagor
Mae hi wastad yn siom pam nad oes neb yn deilwng o'r gadair. I'r rheiny ohonom sy'n ei chael hi'n haws saethu chwannen o ganllath na sgwennu llinell o gynghanedd mae'n rhyfeddod nad yw'n digwydd yn fwy aml.
Y tro diwethaf i'r gadair cael ei hatal cyn eleni oedd yn Eisteddfod Pen-y-bont yn 1998. Beth ddigwyddodd i'r gadair honno, tybed?
Rhodd John Elfed Jones oedd y gadair ac fe benderfynodd ei chyflwyno i'r cynulliad gan awgrymu'n gellweirus y byddai'n gadair addas i rywun "bron cyn bwysiced a phrifardd". Fe ddylai John wedi gwybod yn iawn na fyddai Dafydd El, wnaeth ei olynu fel cadeirydd y bwrdd Iaith, yn fodlon parcio ei ben ôl yn y fath le!
Serch hynny fe gafodd y gadair le digon anrhydeddus y tu allan i ddrysau'r hen siambr nes i adeilad newydd y senedd cael ei agor. Ers hynny mae hi wedi eistedd (neu sefyll) mewn cornel stafell ddigon di-nod yng nghrombil TÅ· Hywel.
Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n sen ar John Elfed na'r Eisteddfod ond mae'r peth yn biti. Mae gan ardal Pen-y-bont ysgol gyfun Gymraeg erbyn hyn. Os nad oes 'na le addas iddi yn y cynulliad oni fyddai'r ysgol honno yn well cartref i gadair 1998?
*Gyda llaw, rwy'n credu bod bathodyn Ysgol Llangynwyd yn hynod o glyfar. Fe fyddai'n gwis da i ofyn i chi sbotio pob elfen! Rwy'n cymryd mai afonydd Ogwr, Garw a Llynfi sydd ar ben y groes. Cynrychioli Maesteg mae'r 7777, wrth gwrs ac arwydd Llan ei hun yw'r gwenith gwyn. Rwyf hefyd yn gallu gweld siâp hen bont Pen-y-bont ond dim byd (hyd yma) i gynrychioli Porthcawl.
SylwadauAnfon sylw
Syniad da iawn. Chlywais i ddim byd am hanes Cadair yr Urdd chwaith.
Efallai fod y lliw glas tywyll yn cynrychioli'r mor ym Mhorthcawl - er bo fi'n ei gofio fe'n lliw llwyd 'shitty' a gwed y gwir :-)
Digon posib bod ti'n iawn. Roeddwn i'n chwilio am garafan neu cornet Sidoli!
Braf yw darllen bod pobl yn hoffi'r cynllun ar gyfer bathodyn yr ysgol. Aeth llawer o waith meddwl i mewn i hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cynrychioli'r elfennau gwahanol o dalgylch yr ysgol (sir Pen-y-bont gyfan), dathlu treftadaeth Llangynwyd a'r ardal a hefyd i nodi ymroddiad yr ysgol i safonau addysg.
Dyma'r manylion swyddogol ynglŷn â'r hyn a ymddangosir ar y bathodyn.
Mae'r 3 rhan glaswyrdd sy'n arwain at y bont yn y canol yn cynrychioli'r afonydd (a'r cymoedd) Llynfi, Garw ac Ogwr. Y bont yw Pen-y-bont ei hun a'r glaswyrdd o dan y bont yw'r môr (ardal Porthcawl).
Mae'r 7777 yn cynrychioli hen blwyf Llangynwyd. Mr pluen a'r sgrôl yn cynrychioli addysg a'r gwenith gwyn yn adlewyrchu stori Ann Thomas o Langynwyd. Croes Geltaidd Cefn Ydfa yw'r siâp amgylchynol sydd eto'n dathlu treftadaeth yr ardal. Mae'r aur a'r du o amgylch y groes yn cynrychioli hanes pyllau glo yr ardal (yr "aur du").