Cwestiwn
Rwy'n tueddu cadw allan o gemau gwleidyddol y byd darlledu. Os oeddwn i eisiau bod yn fanajer fe fyswn wedi dewis y llwybr hwnnw blynyddoedd yn ôl!
Ar y llaw arall, fel gwyliwr, onid oes gen i'r hawl i ddisgwyl i sylwebaeth chwaraeon S4C ar Freeview fod yn Gymraeg? Beth ar y ddaear sy'n digwydd yn fan hyn? Cyn i S4C botsio ym myd darlledu Saesneg oni ddylai'r sianel sicrhau gwasanaeth teilwng i'r Cymry Cymraeg?
*Post ynghylch Sgarlets v Leinster yw hwn. Ai fi oedd yr unig un oedd yn methu'n lan cael sylwebaeth yn y Gymraeg? Ta beth, onid y Gymraeg ddylai fod yn "default" ar S4C? Pam ar y ddaear y dylwn i "bwyso'r botwm coch" er mwyn gwylio'r "Sianel Gymraeg" yn y Gymraeg?
Diweddariad (Llun) Mae S4C wedi gadael y sylw yma.
Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion sydd wedi parhau i'n gwylwyr gyda'r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon. Ry'n ni'n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher. Mae'n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a hoffwn sicrhau'n gwylwyr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa. Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C
Mae Garffild yn hen gyfaill i mi ac yn gythraul o foi da. Gyda lwc dyma ddiwedd ar y broblem. Rwy'n croesi fy mysedd!
SylwadauAnfon sylw
Rhynpeth i finna wrth i mi edrych a'r gem Llanelli v Bangor a'r rhaglen sgorio a'r fy cyfrifadur yn Arizona. Fe wnaeth yr uchabwyntiau cychwyn yn y gymraeg a newidiodd i saesneg a'r ol y gol gyntaf!!!!
Does gen i ddim problem efo is-deitlau saesneg ond dwi amau fydd Cymraeg dod yn ail iaith y sianel yn sydyn iawn os ydi ni dilyn y lon yma!!!!
Cytuno yn llwyr Vaughan. Gallwn ni ddim credu'r sefyllfa neithiwr. Damio S4C Nid hyn oedd ein dymuniad yr holl flynyddoedd yn ol. Yr holl abeth i gael Sianel Gymraeg ..... nid un gyda'r optiwn i gael sylwebeth Gymraeg wrth wasgu botwm coch!! Ie y Gymraeg dylid fod yno yn naturiol. Pam y sylwebaeth yn saesneg ta beth?...dyma gyfle i'r ddi Gymraeg glywed yr iaith ar ei gorau.
Rheolwyr S4C gwnewch rhywbeth yn gyflym am hwn!
Cytuno'n llwyr.
Ces i'r un broblem tra'n gwylio'r gem yn fyw arlein - sylwebaeth Saesneg ond dim modd newid i Gymraeg.
Yn Saesneg oedd y sylwebaeth trwy wasanaeth Sky hefyd. Roedd yn rhaid gwthio tri botwm (coch/dewis iaith/newid iaith) er mwyn cael y sylwebaeth yn y Gymraeg. Ac os oedd rhywun eisiau syrffio'r sianeli eraill yn ystod yr egwyl, rhaid oedd dilyn y drefn eto ar gyfer yr ail hanner. Dychrynllyd, digalon a chywilyddus.
Gweler Maes e 'nol Awst 14 am drafodaeth ar ol cael yr un drafferth efo peldroed
Mae hyn yn warthus. Fel dywedodd Wilias uchod, cafwyd yr un problem gyda pheldroed rhai wythnosau'n ôl, ac roedd rhaid i S4C ymddiheurio, ac yna mae nhw'n gwneud yr un peth gyda rygbi!! Roedd cymaint o bobl yn cwyno nos Sadwrn, fel nad oedd unrhyw ffordd mynd trwodd at y llinell gwylwyr, ac fe wnaeth y wefan grashio hefyd am gyfnod.
Does gen i ddim problem mewn cynnig opsiwn sylwebaeth Saesneg ar S4C, OND dylai'r Gymraeg fod yn opsiwn di-ofyn i bawb, boed yn gwylio ar Sky, Freeview neu dros y we, gyda'r dewis i wrando yn Saesneg trwy wasgu'r botwm coch, nid y ffordd arall rownd!
Trafodaeth maes-e yma -
Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion sydd wedi parhau i’n gwylwyr gyda’r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon.
Ry'n ni’n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher.
Mae’n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a hoffwn sicrhau'n gwylwyr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa.
Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C
A'r un peth wrth wylio recordiad o Sgorio nos Sul trwy BT Visision.
Sylwebaeth yn newid i'r Saesneg ar y brif gêm ar ôl ychydig munedau. Dechreuwyd y gemau wraill gyda ychydig o ddisgrfiad Saesneg ("brought to you by Sunset and Vine Wales"), gan gynnwys datgelu'r sgôr, cyn mynd at sylwebaeth Cymraeg.