Serpensortia
Mae'r Daily Telegaph wedi cyhoeddi rhestr o'r 50 Democrat Rhyddfrydol mwyaf dylanwadol. Cafodd y rhestr ei pharatoi gan Iain Dale a "phanel o Ddemocratiaid Rhyddfrydol amlwg".
Mae arweinydd newydd y Blaid Gymreig Kirsty Williams yn ymddangos ar y rhestr am y tro cyntaf yn safle rhif 38. Mae hynny un yn is nac arweinydd Cyngor Newcastle, naw yn is nac Alex Carlile a thri yn is nac oedd Mike German llynedd.
Er cysur, fe fydd Kirsty yn falch i wybod ei bod wedi curo Daniel Radcliffe (46) a Lembit Opik (50).
Un o'r rheini yw'r crwt mewn sbectol sydd wedi ein diddanu ni i gyd gyda ei fywyd ffantasi, y troeon trwstan mae'n ei wynebu a'i allu i orchfygu pob cynllwyn tywyll yn ei erbyn.
Mae'r llall yn chwarae Harry Potter.
Gyda llaw mae 'na ddatblygiadau yn stori'r cofnod. Mae'r manylion ar flog Betsan.