Fel oeddwn i'n dweud...
Mae datganiad gan y Bwrdd Iaith newydd ddod i law yn wfftio dadleuon Comiswn y Cynulliad ynghylch y Cofnod.
Efallai eich bod yn cofio bod y Comisiwn yn hawlio nad oeddynt wedi mabwysiadu Cynllun Iaith y Cynulliad. Sut felly mae esbonio llythyr i'r Bwrdd Iaith gan Dafydd Elis Thomas ar Hydref 24ain 2006 yn datgan bod y comisiwn wedi mabwysiadu'r cynllun? A'r busnes yna ynghylch "geiriad amwys y Cynllun"? Nonsens medd y Bwrdd.
Dydw i ddim yn cofio achos lle mae'r Bwrdd wedi gweithredu mor gyflym, mor gadarn ac mor gyhoeddus. Mae'n amlwg bod hwn yn fater o egwyddor i'r Bwrdd a bod y sefyllfa gyfreithiol yn gyfan gwbwl eglur yn ôl eu cyfreithwyr. Dyma'r datganiad;
Cynllun Iaith y Cynulliad: Bwrdd yn mynnu atebion
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gwrthod cais gan y Cynulliad i newid geiriad eu Cynllun Iaith. Mewn llythyr at y Bwrdd ar 28 Awst 2009, honnai'r Cynulliad bod amwysedd yng ngeiriad cymal 4.8 y Cynllun, sef:
"Cyhoeddir cofnod gair am air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn".
Barn y Bwrdd yw bod y cymal hwn yn eglur.
Mae'r Bwrdd yn datgan fod Cynllun Iaith y Cynulliad yn gynllun statudol. Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu gan Comisiwn y Cynulliad a gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn y llythyr gwreiddiol at Lywydd y Cynulliad ar 10 Awst 2009, gofynnodd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, gyfres o gwestiynau, er mwyn sefydlu beth oedd cefndir a sail y penderfyniad i beidio cyfieithu trafodion y Cyfarfod Llawn i'r Gymraeg. Nid yw'r Bwrdd o'r farn fod y cwestiynau hyn wedi eu hateb yn eu cyfanrwydd. Mae'r Bwrdd, felly, wedi gofyn i'r Cynulliad ymateb i'r holl gwestiynau erbyn 22 Medi 2009.
Lle bo gan y Bwrdd amheuon bod corff cyhoeddus wedi methu cydymffurfio â'i gynllun iaith, mae ganddo hawl statudol i gynnal ymchwiliad o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Oni chaiff y Bwrdd ymateb boddhaol i'r holl gwestiynau a ofynnwyd erbyn 22 Medi 2009, bydd yn parhau â'r camau nesaf ar sail yr wybodaeth sydd eisoes wedi dod i law.
Mae'n debyg y byddai herio penderfyniad y bwrdd yn costi llawer mwy na'r chwarter miliwn y mae'r comisiwn yn ceisio ei arbed. Yr un cwestiwn eto felly. Ydy'r Llywydd, mewn gwirionedd, yn fodlon mynd i'r baricêd dros gyfieithu (neu yn hytrach dros beidio cyfieithu) y cofnod? Mae 'na gwestiwn arall hefyd. Ydy'r Comisiwn, mewn gwirionedd, yn fodlon mynd i'r baricêd dros y Llywydd?
Sawl person sy'n adrodd y frawddeg yma heno? "Os oedd cyn-gadeirydd y Bwrdd Iaith yn dweud bod y peth yn iawn pwy oeddwn i i'w herio?" Rwy'n gwybod am o leiaf un ac rwy'n amau bod 'na fwy.
SylwadauAnfon sylw
Bydd llawer yn troi ar sut y diffinir "dwyieithog". Nid oes gair yn y cymal yma sy'n so^n am 'dwyieithrwydd llawn' neu 'teg'.
Ydy dogfen sydd ag ychydig o eiriau Cymraeg arni yn 'ddwyieithog'? (On'd dyna oedd awgrym gwreiddiol y Cynulliad, sef y byddai'r Gymraeg wreiddiol ar gael o hyd i'r rhai oedd eisiau'i gweld, ond na châi'r Saesneg ei chyfieithu?).
Cwestiwn sy'n dilyn wrth feddwl am ystyr y gair yw hyn: ydy gwlad sydd a^ dim ond rhyw 20% o'i phobl yn defnyddio'r iaith yn 'ddwyieithog'? A yw'r Cynulliad yn fodlon â hyn hefyd?
beth bynnag am dy drydydd paragraff diddorol aled (ac mae'n debyg mai fy ateb i fyddai nad canran y boblogaeth sy'n *gallu* siarad sy'n bwysig, ond yn hytrach faint o ddefnydd sydd o'r gymraeg fel iaith fyw...), mae'r ateb i dy gwestiwn ynghylch ystyr dwyieithrwydd yn y frawddeg yng nghynllun iaith y cynulliad yn dod yn gwbl eglur pan roddir diwedd y frawddeg hefyd, sy'n nodi gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfod llawn a'r hyn sy'n digwydd yn y pwyllgorau:
"Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn, ynghyd â chofnod o bob cyfarfod Pwyllgor gyda chyfieithiad Saesneg o unrhyw gyfraniadau Cymraeg."
pob clod i fwrdd yr iaith am ddangos ei ddannedd am unwaith! roedd penderfyniad gwarthus y pwyllgor o bump mewn perygl o wneud niwed gwirioneddol i ddeddf yr iaith gymraeg, sydd, fel y gwyddon ni, yn ddigon gwan fel y mae.