³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peint o Allbright, Plis.

Vaughan Roderick | 15:51, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

_41271327_adamprice.jpg
Mae'n digwydd bob wythnos. Rwy'n disgwyl i Ddydd Gwener fod yn ddiwrnod bach tawel a BANG!! mae rhywbeth yn digwydd i darfu ar lonyddwch ein huned bach yn y Bae! Rwy'n meddwl fy mod yn haeddu ysgoloriaeth Fulbright Allbright fy hun.

Sut mae dadansoddi penderfyniad Adam? O siarad â'r rheiny sy'n ei nabod yn dda mae'n amlwg ei fod wedi penderfynu nad yn San Steffan y mae pennod nesaf ei fywyd i fod. Os oedd modd ennill sedd cynulliad fe fyddai wrth ei fodd ond nid dyna'r rheswm dros adael Tŷ'r Cyffredin. Doedd ei ddim yn dweud celwydd yn ei araith yn Llandudno pan wnaeth e awgrymmu ei fod wedi cael llond bol o'r lle.

Bwriad Adam yw sefyll yn 2011. Y cwestiwn yw ymhle? Dyw Rhodri Glyn ddim am ildio ei sedd a dydw i ddim yn meddwl bod 'na unrhyw awydd o gwbl yn rhengoedd y blaid i orfodi iddo wneud. Does 'na ddim sedd rhestr amlwg ar gael chwaith.

Mae hynny yn gadael dwy etholaeth sef Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Chastell Nedd. Castell Nedd yw'r ffefryn fe dybiwn i. Mae Nerys Evans yn ffition'n well rhywsut yn y sedd orllewinol tra bod pentrefi cymoedd Tawe, Dulais a Nedd yn debyg iawn i'r ardaloedd cyn-lofaoal y mae Adam wedi troi'n gadarnleoedd personol yn Sir Gar.

Dyma sgŵp bach arall i chi. Mae deryn bach yn dweud na fydd Gwenda Thomas yn sefyll eto. Mae gan Gwenda gefnogaeth bersonol sylweddol yn yr union ardaloedd lle gallai Adam wneud yn dda- llefydd fel Cwmgors a Phontarddulais.

Y cwestiwn arall sy'n codi yw pwy fydd yn sefyll i Blaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin- sedd sy'n hynod ddiogel erbyn hyn. Fe fydd Adam yn berson anodd i ddilyn ond mae gan y blaid fainc aruthrol o gryf yn yr ardal.

Mae ambell i enw yn dod i fy meddwl yn syth. Mae Llŷr Hughes-Griffiths yn un er ei fod bellach wedi ymgartrefu yn y Gogledd. A fyddai Hedd Mabon ab Gwynfor* yn dymuno dilyn yn ôl traed ei dad-cu? Beth am Jonathan Edwards o Rydaman oedd yn brif strategydd y Blaid yn 2007? Mae Cadeirydd y Blaid John Dixon yn bosibilrwydd hefyd. Rwy'n siŵr bod 'na enwau eraill. Mae'n amlwg nad yw Pleidwyr eraill yn rhannu diflastod Adam ynghylch San Steffan!

*Mae'r holl Gwynforiaid yma yn fy nrysu weithiau! Ar y llaw arall hwyrach na ddylwn i ddiystyrru Hedd chwaith!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:10 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Dim merch ar dy restr o olynwyr yma nac yn yr adroddiad ar report Wales. Gan na fu merch yn cynrychioli'r Blaid yn San Steffan erioed byddwn yn disgwyl bydd pwysau mawr ar awdurdodau'r Blaid i sicrhau mae ymgeisydd benywaidd bydd yn olynu Adam

  • 2. Am 20:15 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt da, Alwyn. Mae'n rhy hwyr switsio Myfanwy a dydw i ddim yn gallu meddwl am ferch amlwg. Ar y llaw arall mae 'na lwyth o bobol PC dydw i ddim yn nabod yn yr ardal yna. A fyddai diddordeb gan Bethan Jenkins neu Nerys Evans, tybed? Wrth feddwl am y peth gallai sedd restr Bethan fod dan fygythiad pe bai Adam yn sefyll ac yn ennill yng Nghastell Nedd. fe wna i ofyn!

  • 3. Am 20:42 ar 18 Medi 2009, ysgrifennodd Efrogwr:

    Sgwp da iawn, Vaughan! Beth am Blaid Cymru yn etholaeth Cwm Nedd? Pwy oedd yr ymgeisydd y tro diwethaf ac ydy ef/hi yn debygol o sefyll i'r neilltu'n dawel y tro nesaf? Beth am ffigyrau pleidleisio'r Blaid yno yn yr etholiadau diweddaraf? Faint o sylfaen 'dych chi'n meddwl fyddai i Adam Price adeiladu arni?

  • 4. Am 18:49 ar 19 Medi 2009, ysgrifennodd Deio:

    Am 19:10 ar 18 Medi 2009, Alwyn ap Huw ysgrifennodd:

    "Dim merch ar dy restr o olynwyr yma nac yn yr adroddiad ar report Wales. Gan na fu merch yn cynrychioli'r Blaid yn San Steffan erioed byddwn yn disgwyl bydd pwysau mawr ar awdurdodau'r Blaid i sicrhau mae ymgeisydd benywaidd bydd yn olynu Adam"

    LOL!

  • 5. Am 22:53 ar 19 Medi 2009, ysgrifennodd dai7900:

    Beth am ychwanegu un o gyfarwyddwyr Tinopolis i'r rhestr o ddarpar ymgeiswyr? Menyw,ond efallai rhy adain dde i'r etholwyr

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.