Rhwydweithio
Rwy'n deall yn iawn y rhesymeg y tu ôl i benderfyniad penaethiaid i fabwysiadu strategaeth "byr ac aml" ar y gwefan. Mae hynny, ynghyd a'r sylw i straeon Prydeinig a thramor, yn ei wahaniaethu o'r safle yma ac yn gwneud y gorau o adnoddau sydd, mewn gwirionedd, yn ddigon cyfyng.
Rwy'n sicr hefyd bod Dylan a'i griw wedi bod yn ymwybodol o'r cychwyn y byddai angen dechrau ychwanegu tipyn o gig at yr esgyrn yn weddol o fuan. Mae hynny yn awr yn digwydd gyda chyhoeddi ambell i beth mwy swmpus.
Enghreifftiau o hynny yw Ifan Morgan Jones ar beirannau cyfieithu ar-lein a'r. Nawr mae'r rhestr blant ei hun yn nonsens pur (lle mae cyfres y Llewod er enghraifft?) ond, wrth gwrs, dyna yw holl bwynt y peth. Mae'n erthygl sydd i fod i esgor ar gwynion crintachlyd gan bobol fel fi a thrafod brwd ymysg ffrindiau.
Ta beth, dyma gasgliad o ddolenni amrywiol i'ch difyrru.
Mae na gythraul o ffrae rhwng Slofacia a Hwngari ynghylch hawliau ieithyddol.
Budapest Times
TASR
Yn agosach at adref
Independent
Anrhefn addysgiadol Gogledd Iwerddon
Belfast Telegraph
Fe fydd hwn yn deimlad cyfarwydd i Lafur Cymru. Ar ôl tri chwarter canrif ydy'r byd yn dod i ben i Fianna Fáil?
Irish Times
Ac oherwydd fy mod yn sicr ei fod yn torri ei galon os oes wythnos yn mynd heibio heb iddo ymddangos ar y blog...
Independent