Sbinio
Y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n tueddi ei chael him am sbinio canlyniadau etholiad mewn taflenni ond go brin eu bod erioed wedi bod cweit mor ddigywilydd â Phlaid Cymru ym Mro Morgannwg! Dyma i chi sbin gystal ag unrhyw londrét!
Mewn taflen mae'r Blaid yn brolio ei bod yn "gydradd gyntaf" gyda'r Ceidwadwyr a Llafur yn etholiad Ewrop. Yn sicr dwy hynny ddim yn wir o safbwynt pleidleisiau crau. Efallai bod y Blaid yn cyfeirio at y ffaith bod y tair plaid wedi ennill sedd yr un. Os felly pam gadael UKIP allan?
Mae'r daflen yn mynd yn ei flaen i honni bod Plaid Cymru "o fewn 750 o bleidleisiau i fod yn ail y Mro Morgannwg". Mae hynny'n ffeithiol gywir. Dyma ganlyniad y Fro yn etholiad Ewrop.
Ceidwadwyr 7611
Llafur 4025
UKIP 3718
Plaid Cymru 3275
Democratiaid Rhyddfrydol 2138
Onid yw'r blaid wedi gadael ambell i beth allan? Y ffaith ei bod yn bedwerydd, er enghraifft.