³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Mab Darogan

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

penyberth.jpgYchydig iawn o wleidyddion Cymru sy'n gallu denu newyddiadurwyr gwleidyddol i neuadd cynhadledd er mwyn gwrando ar araith. Gwrando ar y ffid deledu yn ystafell y wasg yw'r drefn arferol gan fod hynny yn caniatau ffeilio (a blogio!) ar yr un pryd.

Un o'r eithriadau prin yw Adam Price- un sy'n gwybod nid yn unig lle mae "g-spot" ei blaid ond un y wasg hefyd. Mae gan Adam y gallu i bleisio pob carfan o'i blaid gan gyfuno cyfeiraidau at Dryweryn, Streic y Glowyr, Merched Beca a Nye Bevan mewn ffordd sy'n swnio'n gwbwl naturiol. Roedd ei araith heddiw hyd yn oed yn cynnwys ymdrech i estyn llaw i ambell i Geidwadwr gyda gwahoddiad (drygionus efallai) i David Melding ymuno a'r blaid. Fe awgrymmodd Adam hefyd ei bod hi'n bryd iddo fe'i hun "ddod gartref" o San Steffan.

Mae Plaid Cymru yn hoff iawn o ddrindodau. Efallai mai Trioedd Ynys Prydain neu cysgod yr hen driban sy'n gyfrifol. Cafwyd drindod Penyberth ar boster enwog yn y tridegau a drindod arall ar boster arall yn 1974. Saunders, DJ a Lewis Valentine yn '36, Gwynfor, Wigley a Dafydd El yn '74, Wigley Adam a... phwy arall yn 2011?

"Watch this space", fel maen nhw'n dweud!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 03:54 ar 13 Medi 2009, ysgrifennodd Michael Cridland:

    Peidiwch â gwneud i mi chwerthin! Rwy'n cofio bod Glyndwr Dechreuodd ei symud ar gyfer annibyniaeth â gweithredu. Gall Cymru fizzled allan! Hefyd, nid Blaid Cymru yn y Parc Cenedlaethol. Pryd y gall Plaid ethol cynghorwyr yng Nghas-gwent yn gyfforddus â Caerfyrddin, ni fydd pethau'n newid.

  • 2. Am 07:24 ar 13 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Wigley Adam a... phwy arall yn 2011?" `
    Ti'n sôn am restr fer Castell Nedd Vaughan?

  • 3. Am 11:26 ar 13 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nac ydw... rhyw ensyniad bach ynghylch newydd-ddyfodiaid y pedwerydd Cynulliad oedd hwnna er efallai y byddai "re-treads" yn well disgrifiad!

  • 4. Am 11:30 ar 13 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    O wefan y Cyngor Mynwy. "2008 Election Results; Caldicot Castle Ron Stewart Plaid Cymru The Party of Wales 214 Elected." Dyw Cilycoed ddim mor bell a hynny o Gasgwent! Rhyw filltir efallai?

  • 5. Am 09:36 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Geraint:

    Dafydd, Adam a Ron, wrth gwrs.

  • 6. Am 10:38 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Bocs o siocledi i Geraint!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.