Dynion Diarth
Mae gwyleidd-dra rhai o'n aelodau seneddol yn rhyfeddu dyn, weithiau! Ar ganol yr helynt treuliau mae pymtheg ohonyn nhw wedi cyflwynoyn cwyno bod y nifer o seddi sydd wedi eu clustnodi ar gyfer aelodau seneddol yn y "stranger's cafetria" wedi ei chwtogi. Mae 'na gliw yn enw'r "stranger's cafeteria" ynghylch pwy y sefydlwyd y lle i wasanaethu!
Does dim aelod o Gymru ymhlith y pymtheg, diolch byth, ac i fod yn deg mae gan yr aelodau bwynt. Wedi'r cyfan yn ôl y cynnig "no consultation of hon. Members took place prior to the decision."
Diolch byth byddai awdurdodau'r cynulliad byth bythoedd yn gwneud newidiadau pwysig heb ymgynghori a'r aelodau. Ac eithrio ynghylch trefniadau cyfieithu.