Gwerth Pob Ceiniog
Faint mae'n costi i ymladd etholiad? Nid cyfeirio at yr ymgyrch ar lefel genedlaethol ydw i fan hyn ond at yr ymgyrchu lleol ar lefel etholaeth.
Mae'r ateb yn dibynnu ar y sefyllfa wleidyddol yn yr etholaeth wrth gwrs. Mewn etholaeth sy'n ddiogel i blaid neu un lle nad oes ganddi obaith ennill fe wnaiff rhyw £2,000 y tro. Mae hynny'n ddigon i dalu am argraffu un daflen i'w dosbarthu gan y Swyddfa Bost fel prawf bod y blaid yn "cymryd y peth o ddifri".
Mae ymgyrch go iawn mewn etholaeth y mae gobaith ei hennill, neu beryg ei cholli, yn fater arall. Mae'r rheolau cyfreithiol ynghylch uchafswm y gwariant yn gymhleth ac maen nhw wedi newid ar gyfer etholiad 2010 ond ychydig iawn o ymgyrchoedd yng Nghymru sy'n gwario hyd at yr uchafswm cyfreithiol.
O ofyn o gwmpas y gred yw bod ymgyrch ymosodol effeithiol yn costio rhwng £15,000 a £20,000. Mae ymgyrch amddiffynnol ychydig yn rhatach oherwydd effaith y lwfans gyfathrebu a gallu deiliad y sedd i sicrhau cyhoeddusrwydd a sylw yn y wasg leol. £10-15,000 yw'r ffigwr sy'n cael ei chrybwyll gan amlaf.
Rwyf wedi sgwennu o'r blaen ynghylch y ffrynt eang iawn fydd yn bodoli yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf gyda mwy na dwbl y nifer arferol o etholaethau'n gystadleuol. Fe fydd angen tomen o bres i redeg ymgyrchoedd ar lawr gwlad felly.
Dyw hynny ddim yn broblem i'r Ceidwadwyr sy'n morio mewn arian ar hyn o bryd. Dyw hi ddim yn llawer o broblem i'r Blaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith sydd â nifer cyfyngedig o seddi targed. Fe fydd y ddwy blaid felen yn ceisio gosod sylfaen ar gyfer 2011 mewn ambell i le ond mater o ddewis nid o reidrwydd yw hynny.
Mae hynny'n gadael y Blaid Lafur a chythraul o broblem. Mae'n bosib dadlau ynghylch yr union nifer a'r union seddi ond mae fy radar gwleidyddol i yn awgrymu y bydd yn rhaid i Lafur ariannu ymgyrchoedd llawr gwlad go iawn mewn rhyw ugain o etholaethau. Dim ond un o'r rheiny, sef Blaenau Gwent, sy'n ymgyrch ymosodol.
Gyda'r pleidiau lleol mewn sawl ardal a'u coffrau'n gymharol wag fe fydd yn rhaid i o leiaf peth o'r arian dod o'r canol. Y teimlad rwy'n cael yw bod aelodau llawr gwlad Llafur yn barod i gwffio. Dydyn nhw ddim yn barod gweld Llafur yn colli heb gythraul o ffeit ond nid yw'n filwr heb fwled ac mae'n rhaid i rywun dalu am y bwledi.
Mae'r fathemateg yn ddigon syml, Os oes 'na ugain etholaeth angen o gwmpas £15,000 yr un mae'n rhaid dod o hyd i £300,000 o rywle. Gyda'r ymgyrch canolog yn llyncu pres a fydd gan Lafur swm o'r fath? Gyda'r blaid eisoes yn ddwfn mewn dyled- rwy'n amheus.
Mae hynny yn mynd a ni at graidd y broblem. Yr unig ffordd i arbed arian yw trwy ildio tir. Mae'n bosib y byddai'n peth call i ddweud "anghofiwch am Ogledd Caerdydd, Blaenau Gwent ac Aberconwy fe wnawn i wario'n pres ym Mhen-y-bont a De Clwyd". Peth call, efallai, ond fe fyddai'n gyfaddefiad hefyd bod yr etholiad, i bob pwrpas, eisoes wedi ei golli.
Un o'r pethau mwyaf diddorol dros y misoedd nesaf fydd ceisio canfod yn lle yn union y mae Llafur yn torri ei ffosydd a ble y mae'r pleidiau eraill yn gosod eu magnelau. Mae'n bosib y byddwn yn gallu synhwyro'n well bore fory.