Ffrindiau Bore Oes
Ar y cyfan rwy'n fwy o ddyn "Newyddion" na "Wales Today". Cyn i mi gael pelten gan ambell i gydweithiwr fe ddylwn i ddweud mai'r ffaith nad wyf gan amlaf yn cyrraedd adref tan saith yw'r rheswm penna am hynny!
Ta beth, gan fy mod yn ymddangos ar y rhaglen Saesneg neithiwr fe wnes i ddigwydd gweld ynghylch Robert Reid, y crwt ysgol o Brestatyn wnaeth swyno'r gynhadledd Geidwadol deng mlynedd yn ôl. Fe drodd Robert ei gefn ar wleidydda er mwyn gweithio fe "estate agent". Yn hynny o beth mae'n atgoffa rhyw un o John Major, yr unig fachgen wnaeth rhedeg i ffwrdd o'r syrcas er mwyn gweithio mewn banc!
Seren wib oedd Robert ond beth am "sêr" eraill Ceidwadwyr Cymru, y chwe aelod seneddol oedd yn cynrychioli etholaethau Cymreig cyn trychineb etholiadol 1997?
Mae hanes tri ohonyn nhw yn ddigon hawdd i ganfod. Mae Wyn Roberts yn Nhŷ'r Arglwyddi, Jonathan Evans yn gobeithio dychwelyd i San Steffan ar ôl degawd yn Senedd Ewrop ac mae Rod Richards wedi troi ei law at sgwennu a darlledu.
Ond beth am y tri arall sef Gwilym Jones, Walter Sweeney a Roger Evans?
Y diwethaf i mi glywed am Gwilym oedd ei fod e, fel Robert Reed, yn y busnes prynu a gwerthu tai ar ôl cyfnod yn "helpu allan" yn swyddfa bost ei wraig yng Nghaerffili. Yn sicr dyw e ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech yn ddiweddar i ddychwelyd i fyd gwleidyddiaeth.
Rhyw fath o Aelod Seneddol trwy hap a damwain oedd Walter Sweeney. Un o Swydd Efrog oedd e wnaeth synnu pawb (gan gynnwys y Torïaid lleol) trwy gipio Bro Morgannwg o drwch blewyn yn 1992. Ar ôl ei cholli yn '97 fe ddychwelodd i ogledd Lloegr yn ddigon handi. Fe safodd fel ymgeisydd annibynnol yn yr isetholiad rhyfedd hwnnw yn y llynedd gan ennill 238 o bleidleisiau.
Dychwelyd i fyd y gyfraith a'r Eglwys wnaeth Roger Evans, y cymeriad Fictoraidd hwnnw oedd yn chware Pwnsh a Jiwdi gyda Huw Edwards ym Mynwy gydol y nawdegau.
Ac eithrio Jonathan Evans, ac i rwy raddau Arglwydd Roberts, perthyn i orffennol y Ceidwadwyr mae'r rheiny wnaeth adael y senedd yn '97 felly. Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod nifer o ffigyrau amlwg y blaid heddiw, pobol fel Nick Bourne a David Davies wedi ymddangos o fewn misoedd i'r etholiad hwnnw fel arweinwyr yr ymgyrch "Na" yn y refferendwm datganoli.
SylwadauAnfon sylw
Sylwer fod 'Mad Cow-Girl' o'r Monster Raving Loony Party wedi ennill mwy o bleidleisiau na Walter Sweeney yn Haltemprice & Howden!