Gwael yw'r Gwedd
Wyddoch chi pwy neu beth yw Olympia Snowe? Ydy hi'n;
A. Canolfan sgïo.
B. Cerbyd 4x4 newydd.
C. Gwleidydd Americanaidd.
Y trydydd ateb sy'n gywir. Seneddwraig Weriniaethol o dalaith Maine yw Olympia Snowe. Dros y misoedd diwethaf mae llawer o'r dadleuon ynghylch diwygio gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi eu llunio gyda'r bwriad o ddenu ei chefnogaeth.
Y rheswm am hynny yw hyn. Hi yw'r unig aelod Gweriniaethol o'r senedd, neu o leiaf yr unig aelod o bwyllgor cyllid y Senedd, sy'n fodlon ystyried cefnogi cynlluniau iechyd y Democratiaid.
Does dim angen ei phleidlais hi i basio'r mesur. Dyw hi ddim yn allweddol ond mae pawb wedi bod yn ymddwyn fel pe bai hi. Anghofiwch fod yr arolygon barn yn awgrymu bod 60% o'r boblogaeth yn cefnogi newid. Anghofiwch mai'r Democratiaid sydd mewn grym yn y TÅ· Gwyn, TÅ·'r Cynrychiolwyr a'r Senedd. Pleidlais aelod Maine yw'r hyn sy'n cyfri!
Mae rhywbeth tebyg wedi bod yn digwydd yn y ras i arwain Llafur yn y cynulliad ynghylch ennill cefnogaeth Paul Murphy a Don Touhig. Roedd hi'n amlwg na fyddai'r naill na'r llall yn cefnogi Carwyn Jones. Ond ai Huw Lewis yntau Edwina Hart fyddai'n derbyn sêl bendith y ddau aelod?
Hebddyn nhw fe fyddai cefnogaeth Edwina ymhlith Aelodau Seneddol yn drychinebus o wan ac fe fyddai eu gwrthwynebwyr yn sicr o'i phortreadu fel ymgeisydd rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Roedd y jocs ynghylch "ymgeisydd SA1" eisoes wedi cychwyn.
Roedd gan gefnogwyr Huw le i gredu y gallai eu dyn nhw ddenu cefnogaeth y ddau. Wedi'r cyfan, yr un etholaeth sy'n cael ei chynrychioli gan Paul Murphy a Lynne Neagle ac, yn ôl pob sôn, doedd merch Edwina ddim yn boleit iawn i'r ddau yn y gynhadledd i drafod y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Wel heddiw cyhoeddodd gwyr mawr Gwent eu bod am gefnogi Edwina Hart gan ddod a chyfanswm cefnogwyr y Gweinidog Iechyd ymhlith Aelodau Seneddol i dri allan o naw ar hugain. Efallai nad yw hynny yn "drychinebus o wan" ond mae hi o hyd yn gythreulig o wan o gofio bod Aelodau Seneddol yn cynrychioli oddeutu 18% o'r coleg etholiadol.
Mae'n bosib y gallai Edwina ddenu cefnogaeth rhagor o aelodau seneddol wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen ond ar hyn o bryd mae'n dibynnu ar gythraul o fuddugoliaeth ymhlith yr undebau i fod ac unrhyw obaith o gwbl o gipio'r brif wobr.
SylwadauAnfon sylw
Un peth sy'n ryfeddol am y broses yw bo gan aelodau seneddol (oherwydd eu nifer) fwy o ddylanwad nac aelodau'r cynulliad ar ethol arweinydd y Blaid Lafur..yn y cynulliad...hmmm
Tybed a ellit ddyfalu faint o aelodau unigol sydd gan Lafur yng Nghymru erbyn heddiw Vaughan?
O safbwynt aelodau unigol rhwng deg a deuddeg mil oedd y ffigwr ddiwethaf i mi glywed. Mae'n swnio'n rhesymol i mi o gofio bod rhestrau aelodaeth pob plaid yn cynnwys pobol sydd ar ei hol hi gyda'u taliadau aelodaeth. Os gofia i'n iawn mae PC a'r Ceidwadwyr yn hawlio rhywle o gwmpas 6,000-8,000 o aelodau'r un a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio rhyw 3,000.
Dwi'n ffan mawr o Olympia Snowe, ac wedi ei hedmygu ers rhai blynyddoedd bellach. Mae hi'n 'frid prin' yn y blaid weriniaethol. Gydag ymadawiad Arlen Specter i'r Democratiaid, Olympia Snowe a'i chyfaill Susan Collins yw'r unig gweriniaethwyr 'cymhedrol' sydd ar ol yn y gyngres. Yn fwy arwyddocaol o bosib, dyma'r unig gweriniaethwyr etholedig yn 'New England' erbyn heddiw.
Synnwn ni ddim y byddai'r ras arlywyddol wedi bod dipyn yn fwy cystadleuol pe bai John McCain wedi dewis Snowe yn lle Sarah Palin!
Dydw i ddim yn anghytuno a gair o hynny. Nid feirniadaeth o'r Seneddwraig oedd y sylw ond o'r obsesiwn ynghylch ennill ei phleidlais.
Wi'n deall hynny Vaughan.
Yn y munuduau diwethaf fe gymeradwyodd pwyllgor iechyd y senedd fesur i ddiwygio'r system iechyd yn yr UDA. Olympia Snowe oedd yr unig gweriniaethwr i gefnogi'r mesur. "When history calls, history calls" meddai Snowe wrth ymateb i'w phleidlais.
Dwi bellach wedi cyrraedd talaith y seneddwraig ar fy 'nhrafyls.' Gobeithio gai gyfle i bwyso a mesur arwyddocad ei phleidlais gyda'r 'locals' heno 'ma!