³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Handbags

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 30 Hydref 2009

dafyddelisthomas203x300.jpg
Mae'n werth prynu Golwg yr wythnos hon. I fod yn deg, mae'n werth prynu Golwg bob wythnos ond mae 'na reswm arbennig i gael gafael mewn copi o'r rhifyn gyfredol, rheswm sydd wedi ei gladdu ar y tudalennau llythyrau o dan y pennawd "Angen cydnabod ffrwythau Edwina".

Dafydd Elis Thomas yw awdur y llythyr sy'n ymosod yn ffyrnig ar sylwadau gan Angharad Mair ynghylch agwedd Edwina Hart tuag at yr iaith Gymraeg. Mae'n cyfeirio at nifer o bethau mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyflawni dros yr iaith ac yn gorffen fel hyn;

"Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir gweleidyddion. Onid doeth fyddai i Angharad Mair ddysgu hynny cyn dilyn gyrfa wleidyddol ei hun."

Sgwennu fel unigolyn ac Aelod Cynulliad ac nid yn rhinwedd ei rôl fel Llywydd mae Dafydd. Serch hynny dyw e ddim yn bosib llwyr gwahanu'r dyn a'i swydd. O gofio hynny, rwy'n amau na fyddai Dafydd wedi sgwennu llythyr o'r fath pe bai Angharad yn aelod o blaid arall yn hytrach na'i blaid ei hun.

Rwy'n sicr bod y pwyntiau mae Dafydd yn gwneud am record Edwina yn gywir. Ar y llaw arall rwyf wedi dweud o'r blaen bod yr hyn y mae maniffesto Edwina yn dweud ynghylch ysgolion Cymraeg yn rhyfedd ar y naw ac onid teg yw barnu gwleidydd wrth ei maniffesto yn ogystal â'i ffrwythau?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:56 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Adam Jones:

    Yn bersonol dwi wedi troi yn erbyn Dafydd El, ers y busnes cofnod yma ac mae hwn yn awr yn cryfhau'r ymdeimlad yna. Rwy'n credu taw'r broblem yn bennaf yw bod Dafydd yn ceisio aros ar y dibyn a chyfaddawdu a phawb ond nid trwy sarhau aelodau o'ch plaid eich hunain mae gwneud hynny, Yn bersonol dwi'n cytuno a sylwadau Angharad Mair, Mae beth mae'i 'di dweud yn gywir. Ac falle dylai Dafydd dilyn gyrfa wleidyddol Cywir dros y pobl mae e'n eu cynrychioli yn hytrach na meddwl ei fod e'n well o lawr ac yn fwy uwch ei statws na neb arall yng Nghymru. Cofia 'di Dafydd mae'r pobl sydd yn rhannu'r rhu'n barn a Angharad Mair yn bennaf sydd wedi ethol eich mawrhydi ac felly os buaswn i'n chi buaswn i'n canolbwyntio ar wneud fy ngwaith fel AC yn hytrach na bigitian pathetig fel hyn.

  • 2. Am 14:35 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd ANGHARAD V THOMAS:

    Yn bersonol dwi’n troi mwy o blaid DE-T bob tro mae’n llwyddo i gorddi’r dyfroedd. Hir oes i’w lwy.

    10 allan o 10 iddo am ddweud ei ddweud yn blwmp ac yn blaen a llwyddo i daro’i darged.

    Yn yr ail rownd mae’n siwr y gwelwn AM yn sgorio marciau uchel wrth iddi hi daro nol.

    Dau fel ‘na yw nhw – byddai’n dda cael mwy.

  • 3. Am 16:06 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Mae peth cyfiawnder ar y ddwy ochor fan hyn.

    Camgymeriad yw brandio Edwina Hart fel gelyn i'r Gymraeg yn nhraddodiad rhai o aelodau blaenllaw eraill y Blaid Lafur yn yr ardal hon dros y blynyddoedd. Mae ei chefnogaeth i'r iaith yn ei hetholaeth yn ddi-gwestiwn (mae'n dod bob blwyddyn i Eisteddfod Gadeiriol Felindre!).

    Yn bwysicach na hynny, mae'r erthygl amdani yn Golwg yr wythnos diwethaf yn brawf hefyd ei bod yn deall un o'r prif ddiffygion o fewn gwasanaethau Cymraeg ar hyn o bryd. Na, nid diffyg biliau dwyieithog gan Vodaphone ac 02, ond diffyg gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi'n wleidydd penderfynol, a gall fwrw'r maen i'r wal yn llwyddiannus.

    Wedi deud hynny, mae'r hyn a geir yn ei maniffesto yn od a dweud y lleiaf, am y rhesymau yr wyt tithau Vaughan wedi eu nodi. Byddai'n ddiddorol gwybod am ba ysgolion ac ym mhle yn hollol yr oedd hi'n son.

    Os taw Dinas a Sir Abertawe oedd dan sylw ganddi, mae'n dipyn o "own goal" mewn ffordd, gan mai un ateb amlwg i'r broblem honedig byddai sicrhau fod yno ddigon o ysgolion Cymraeg hygyrch i gwrdd a'r galw. Pam nad yw hynny'n wir yn Ninas a Sir Abertawe? Oherwydd gwrthwynebiad cenedlaethau o gynghorwyr lleol (Llafur gan fwyaf, ond nid nhw'n unig) i unrhyw ddatblygiad yn maes addysg Gymraeg, yn arbennig yn nyddiau'r hen Sir Gorllewin Morgannwg.

  • 4. Am 17:32 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r pwynt am Orllewin Morgannwg yn un ddilys iawn. Rwy'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud nad agorwyd yr un Ysgol Gynradd Gymraeg yn y sir o sefydlu'r cyngor yn 1973 tan ei thranc yn y nawdegau. Siawns nad yw'r cynghorau ddaeth wedyn cynddrwg!

  • 5. Am 18:53 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Dwi wedi dod i gasgliad fod yr Argwlydd efo ffeiliau cystal a J Edgar Hoover a'r y sefydliad Cymraeg! Pam fydda y uchelwyr y Blaid derbyn ei antics dros y blynyddoedd. Ychydig iawn o eglurhad yr ydych yn cael o'r perthynas rhyfedd yma!!!

  • 6. Am 23:29 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd hogygog:

    Yr unig eglurhad yw fod Dafydd Ellis-Thomas yn cydanbod fod Edwina Hart yn fwy cenedlaetholgar na fo ei hun. Pam ar wyneb ddaear mae pobl Meirionnydd
    yn parhau i ddewis a'i ethol fel aelod Plaid Cymru, dwn i ddim. mae ganddo ffeils arnynt hwy i gyd, mae'n rhaid.

  • 7. Am 13:35 ar 1 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Meiriona:

    Beth bynnag ei feiau - a heb ei fai heb ei eni - mae'n Aelod Cynulliad ardderchog yn ogystal â Llywydd rhagorol sydd bob amser wedi rhoi urddas i'r Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

  • 8. Am 13:57 ar 3 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Sioned:

    Os taw rhoi enwau Cymraeg ar gyrff cyhoeddus yw ffafr fwyaf Edwina Hart a'r iaith - mae yna sicr le i boeni! A galla i ddim cytuno ag Emyr Lewis bod cefnogaeth Edwina Hart i'r iaith yn ei hetholaeth "yn ddi-gwestiwn" -fe fu'n gwrthwynebu sefydlu Ysgol Gymraeg Llwynderw yn West Cross - Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir gwleidyddion?


    Os yw Angharad Mair yn dewis dilyn gyrfa wleidyddol, dwi'n gobeithio y bydd yn para i ddatgan ei barn yn onest a sefyll yn gadarn dros ei hegwyddorion fel hyn - sy'n rhywbeth prin iawn mewn gwleidyddiaeth y dyddiau 'ma.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.