Mam fach...
Mae 'na gonswensws ymhlith y pleidiau bod gan Gymru ormod o gynghorau lleol. Mae 'na gonsensws hefyd na ddylid gwneud unrhyw beth ynghylch y peth, neu mi oedd yna.
Ar hyd y blynyddoedd mae'r llywodraeth (a'r gwrthbleidiau) wedi annog cynghorau ac awdurdodau eraill i gydweithio a'i gilydd gan gyfuno adrannau a gwasanaethau. Os oedd hynny'n digwydd ni fyddai angen newid nifer y cynghorau na'u ffiniau. Heddiw aeth y Gweinidog Llywodraeth Leol gam yn bellach.
Yn ôl Brian Gibbons mae'n bryd i'r cynghorau sylweddoli bod dyddiau "busnes fel arfer" ar ben. Fe fyddai'r llywodraeth meddai yn "ymateb yn ffafriol" i gynlluniau i uno cynghorau a byrddau iechyd, fel sy'n digwydd ym Mhowys ar hyn o bryd, neu i uno cynghorau cyfagos. Dyw e ddim yn gam mawr iawn o "ymateb yn ffafriol" i gymell neu orfodi.
Mae'n bosib mai sefyllfa Ynys Môn sydd wedi newid y meddylfryd. Gwella effeithlonrwydd a safon gwasanaethau yn pwrpas cydweithio a chyfuno adrannau. Ond nid safon nac effeithlonrwydd y gwasanaethau yw problem Cyngor Môn. Problem yr ynys yw ymddygiad rhai o'i chynghorwyr.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n bosib gweld sylwadau Dr Gibons fel rhyw fath o gerdyn melyn i gynghorwyr yr ynys. Wedi'r cyfan mae 'na ambell i wleidydd yn y Bae o'r farn mai chwaer fach Gwynedd yw mam Cymru mewn gwirionedd.
SylwadauAnfon sylw
Mae'n werth edrych ar y pwnc yma eto. Er 'mod i'n deall pam na fyddai gwleidyddion am dynnu nyth cacwn i'w pen, mae'r sefyllfa economaidd yn rhoi rheswm da i edrych am arbedion.
Os fydd ail-edrych ar nifer y siroedd gai gynnig dau awgrym:
Cael gwared ar y cynghorau cymuned sy'n rhy fach a dibwer i wneud unrhyw wahaniaeth ac yn eu lle cael cynghorau ychydig yn fwy . Yn sicr yn y mannau gwledig byddai dilyn ffiniau nifer o'r cymydau yn ffitio'n berffaith. Mae'n nhw'n aml yn cyd-fynd â thalgylchoedd ysgolion uwchradd a theithio i waith e.e. Eifionnydd, Ardudwy.
Yn uwch na'r cymydau gellid cael siroedd mwy. Nôl âr 'hen' Wynedd. Ond tro yma gall y Gymraeg fod yn ystyriaeth wrth ail-lunio ffiniau. Byddai hyn yn golygu fod Llanrwst yn dod yn nôl rhan o Wynedd er enghraifft. Wedi'r cyfan os fydd y gweision sifil a'r gwleidyddion yn ystyried pethau eraill yna mae cynllunio ar sail iaith hefyd yn feincnod bwysig.
Y camgymeriad oedd yr ail-drefnu adeg y Normaniaid / Tuduriad - roedd yr hen gantrefi yn gweithio'n berffaith...
Mae cymhell cynghorwyr i gydweithio fel cymhell gwylanod i rannu.
Pwy sydd am bleidleisio i ollwng gafael a grym a'i symud ymhellach i ffwrdd ? Pawb a'i fys lle bo'i ddolur yw hi. Mae'r ffiniau presennol yn rhy fach a dwi yn amau fod safon a statws y cynghorwyr sirol o dan yr hen drefn yn well gan nad oeddynt wedi ei clymu i ardal fach. Mae'n anodd dadalu yn erbyn democratiaeth ond os rhywbeth mae'r giwed bresennol yn rhy blwyfol ac yn aml yn methu cael perspectif ar ddarlun ehangach.