Meddyliwch!
Fe wnes i ddewis yr hwyaid fel delwedd weledol ar gyfer y ras i olynu Rhodri fel rhyw fath o deyrnged olaf i'r chwaden ungoes. Mae wedi dewis creadur gwahanol gan gyfeirio ati fel "ras y crwbanod". Rwy'n cymryd mai hyd y ras yw un o'r rhesymau am y dewis hwnnw.
Mae'r ffaith y bydd yr ymgyrch yn para cyhyd yn golygu y gallai'r deinamig newid sawl gwaith naill ai oherwydd ymgyrchoedd yr ymgeiswyr neu yr hyn wnaeth Harold Macmillan eu galw'n "events, dear boy, events". Dyma enghraifft o'r hyn allai ddigwydd.
Dw i wedi bod yn dipyn o sinig erioed ynghylch Comisiwn Syr Emyr. Does gen i ddim byd yn erbyn y dyn, ei gyd gomisiynwyr na'u methodoleg. Y broblem i mi o'r cychwyn oedd bod y fath yma o gorff yn debyg o gynhyrchu adroddiad nad oedd yn clymu dwylo'r llywodraeth.
Byswn wedi mentro swllt mai'r canlyniad fyddai rhywbeth i'r perwyl "ar y naill law... ar y llaw arall... penderfyniad i'r gwleidyddion yw hwn, mewn gwirionedd"!
Ond beth os oeddwn i'n anghywir?
Meddyliwch am eiliad. Beth pe bai'r Comisiwn yn dod i'r casgliad bod y dystiolaeth yn awgrymu y byddai refferendwm yn cael ei hennill ac y dylai'r llywodraeth fynd amdani yn syth bin? A beth pa bai'r argymhelliad yna'n cael ei gyhoeddi jyst wrth i aelodau'r Blaid Lafur dderbyn eu papurau pleidleisio?
Fe fyddai hynny'n ddiddorol.
Fe wnes i gynnwys fideo agoriadol Edwina Ddydd Gwener. Dyma un Carwyn. Peidiwch becso dydw i ddim yn bwriadu cynnwys pob un wan jac o rhain dros yr wythnosau nesaf!