Trwy Ddirgel Ffyrdd
Mae'n anorfod mewn ras etholiadol bod 'na dipyn o hel clecs a phardduo'n mynd ymlaen. Er mwyn achub y blaen ar y fath gyhuddiadau yn y ras i arwain Llafur Cymru mae Huw Lewis wedi cynnwys adran "" ar ei wefan.
Digon teg. Mae rhai o'r honiadau ynghylch agwedd Huw tuag at ddatganoli, er enghraifft, yn gor-ddweud sy'n ymylu ar nonsens a dydw i ddim yn ei feio am geisio rhoi stop arnyn nhw.
Ar y llaw arall mae 'na un honiad ar y gwefan sy'n fwy amheus sef hwn; Ffaith: Yn ystod ei bedair blynedd gyntaf fel Aelod o'r Cynulliad, ni hawliodd Huw na'i wraig Lynne Neagle AC geiniog mewn lwfansau tai. Dim ond ar ôl genedigaeth eu mab James yn 2003 y newidiodd hynny.
Nawr mae hynny'n wir. Yr hyn sydd hefyd yn wir yw nad oedd gan aelodau cynulliad Morgannwg a Gwent yr hawl i gael treuliau am ail gartref am ran helaeth o'r cyfnod rhwng 1999 a 2003. Fe newidiwyd y rheolau hanner ffordd trwy oes y cynulliad cyntaf.
Cafodd y newidiadau hynny fawr o sylw ar y pryd ond maen nhw wedi achosi cryn drafferth i'r Cynulliad ers hynny. Mewn gwirionedd mynd yn ôl at yr hen drefn y mae'r cynulliad yn sgil adroddiad Syr Roger Jones.
Ydy panyndryms y Comisiwn wedi dysgu gwers o'u rhagflaenwyr ynghylch peryglon gwneud pethau yn "dawel fach"? Dyw e ddim yn ymddangos felly.
Fe gofiwch, mae'n siŵr, yr holl helynt ynghylch cyfieithu'r cofnod a'r ffordd y gwnaeth y Comisiwn weithredu'n groes i gynllun iaith y Cynulliad gan gynddeiriogi'r Bwrdd Iaith ac, ym marn rhai, torri'r gyfraith.
Nawr, mae'n ymddangos bod o leiaf un o aelodau'r Comisiwn o dan yr argraff bod y newidiadau i'r drefn gyfieithu i'w cyflwyno ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Os felly cyflwynwyd y newidiadau ar ddechrau'r tymor presennol heb fandad ac heb ganiatâd y comisiwn.
A fydd rhyw un yn cael ei holi neu ei ddisgyblu ynghylch beth ddigwyddodd? Dydw i ddim yn dal fy anadl.
* Yn y fersiwn wreiddiol o'r post yma roedd y dyfyniad o wefan Huw yn Saesneg. Diolch I Adam Jones am dynnu fy sylw at y fersiwn Gymraeg.
SylwadauAnfon sylw
Rwy'n synnu eich bod chi wedi postio'r ddolen i'r ochr Saesneg, Mae'r Wefan ar gael yn Gymraeg hefyd. Chwalu'r Mythau.
Diolch, Adam. Doeddwn i ddim wedi sylwi ar fersiwn Gymraeg y gwefan. Mae'r post wedi ei gywiro.