Y Meini Prawf
Yfory yw'r dydd Mawrth cyntaf ym Mis Tachwedd. Mae hynny'n golygu bod hi'n ddiwrnod etholiad yn yr Unol Daleithiau. Does dim llawer o etholiadau eleni ac mae llawer o'r sylw ar yr etholiad i ddewis aelod newydd o'r gyngres mewn rhan anghysbell o dalaith Efrog Newydd. Y rheswm am hynny yw bod 'na fath o ryfel cartref yn mynd ymlaen ymhlith Gweriniaethwyr ac mae'r Democratiaid yn hynod o falch o hynny.
Mae'r syrcas yn Efrog Newydd yn golygu y gallai'r Democratiaid gipio cadarnle Gweriniaethol. Yn bwysicach na hynny mae'n denu'r sylw i ffwrdd o ddau etholiad llawer mwy pwysig y gallai'r Democratiaid eu colli yn Virginia a New Jersey. Yn wir mae'r Democratiaid wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau mai NY-23 sy'n cael ei ystyried fel y maen prawf yn etholiadau eleni.
Mae hwn yn hen dric mewn gwleidyddiaeth. Yr enghraifft orau ym Mhrydain oedd llwyddiant Kenneth Baker yn 1990 i ddarbwyllo newyddiadurwyr mai'r unig etholiadau lleol oedd yn "cyfri go iawn" oedd rhai Westminster a Wandsworth sef yr unig ddau gyngor lle'r oedd gobaith i'r Ceidwadwyr gwneud yn dda.
Yma yng Nghymru mae Plaid Cymru ers degawdau wedi defnyddio eu llwyddiannau yn y Gogledd a'r Gorllewin i gelu ei methiant cymharol yng nghymoedd y de. Ers isetholiadau Gorllewin Rhondda (1967) a Chaerffili (1968) mae'r blaid wedi bod yn bygwth/addo torri trwodd yn y cymoedd. Y gwir plaen yw ei bod wedi methu gwneud hynny ym mhob un etholiad, ac eithrio un, dros y deugain mlynedd diwethaf.
Yr eithriad wrth gwrs yn 1999 pan wnaeth buddugoliaethau yn Rhondda ac Islwyn gyfrannu at gnwd o 17 o seddi yn y Cynulliad. Mae hynny ynddi hun yn ddadlennol. Heb ennill seddi etholaethol yn y rhanbarthau deheuol mae'n anodd iawn i Blaid Cymru ennill mwy na'r pymtheg sedd sydd ganddi yn y cynulliad ar hyn o bryd. Roedd hi'n newyddion drwg iawn i'r blaid felly nad oedd hi ar y blaen yn un o seddi'r cymoedd yn yr etholiadau Ewropeaidd er cynddrwg y canlyniad i Lafur.
Yn rhannol oherwydd hynny, rwy'n tybio, mae 'na newid sylfaenol wedi digwydd yn negeseuon a chynnwys deunydd ymgyrchu'r blaid. Fe wnes i wfftio braidd pan wnaeth un o swyddogion y blaid ddisgrifio ei darllediad diweddar fel "clause four moment". Efallai mai fe oedd yn iawn a fi oedd yn anghywir.
Ym mhob un daflen ac araith o eiddo Plaid Cymru yn ddiweddar mae'r newid wedi bod yn amlwg. Does 'na ddim neu fawr ddim sôn am gwestiynau cyfansoddiadol na'r iaith Gymraeg ac mae "buzz words" traddodiadol fel "llywodraeth Llundain" yn absennol. Yn lle hynny ceir llwyth o eiriau sydd yn amlwg yn gynnyrch grwpiau ffocws, geiriau fel "gwahanol", "llais annibynnol" a "lleol".
Y broblem yw bod grwpiau ffocws yn dweud yr un peth i bawb. Mae negesi'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, i raddau, y Ceidwadwyr yn ddigon tebyg ar hyn o bryd. Wrth gwrs, yng nghyd-destun seddi targed Plaid Cymru yn y cymoedd dyw hynny fawr o ots ond fe fydd angen dipyn mwy o gnawd ar esgyrn yr ymgyrchu cenedlaethol.
SylwadauAnfon sylw
Yn 1999 oedd buddugoliaethau Plaid Cymru yn Rhondda ac Islwyn, wrth gwrs.
Diolch, wedi ei gywiro.