³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bwci Bo

Vaughan Roderick | 13:46, Dydd Iau, 25 Chwefror 2010

_40862664_fruit203bbc.jpgMae'r graffiau melltigedig yna ar daflenni etholiad yn hen gyfarwydd erbyn hyn. Y Democratiaid Rhyddfrydol wnaeth gychwyn yr arfer ond erbyn hyn mae'r pleidiau i gyd yn eu defnyddio.

Mae'n sicr eich bod yn gyfarwydd â nhw- y siartiau sy'n "profi" mai "ras ddau geffyl yw hon" neu fod rhyw blaid neu'i gilydd "ddim yn gallu ennill yma". Dyw'r siartiau byth yn gwbwl ddi-sail ond weithiau mae'n rhaid i blaid chwilio'n galed iawn am ystadegau i "brofi" ei dadl.

Yr enghraifft waethaf i mi weld erioed oedd yn ystod etholiad Cynulliad 2007 pan wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol honni mae "ras dau geffyl" rhyngddyn nhw a Llafur oedd yr etholiad yng Ngorllewin Caerdydd. Y sail i'r gosodiad hwnnw oedd cyfanswm cynghorwyr y pleidiau ar Gyngor Caerdydd. Ar y pryd doedd dim un o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynrychioli wardiau yn yr etholaeth dan sylw!

Ond beth os oedd sefyllfa yn codi lle doedd 'na ddim un ystaegyn ffafriol oedd yn bosib ei stretsio er mwyn "profi" pwynt. Oes modd cynhyrchu'r ystadegau angenrheidiol mewn rhyw ffordd neu gilydd. Oes, gleu!

Os ydych chi'n mentro i wefannau betio ( a rhyngoch chi a'ch nain os ydych chi'n gwneud!) fe wnewch weld bod modd betio ar ymgeiswyr ac etholaethau unigol.

Fe wnaeth Karl y bwci esbonio i fi unwaith sut mae'r system yn gweithio. Wrth osod prisiau gwleidyddol i gwmni Jack Brown fe fyddai Karl yn gwneud amcangyfrif ar ôl siarad ag ambell i arbenigwr. Doedd dim lot o ots os oedd ambell i brys yn or-hael. Mae'r prisiau newid wrth i'r arian ddod i mewn gan gywiro unrhyw gamgymeriad.

Dim ond y betwyr cynnar sy'n gallu manteisio ar gamgymeriad. Ymhen ychydig y betwyr ei hun sydd wedi gosod y pris. Mae'n werth nodi hefyd mai ychydig iawn o fetio sy 'na ymhell o flaen llaw.

Nawr meddyliwch eich bod yn despret am ystadegyn i "brofi" rhywbeth ar daflen. Oes 'na rywbeth i rwystro chi rhag gosod bet sylweddol ar eich ymgeisydd a thrwy hynny newid ei bris? Yr ateb yw nac oes.

Does gen i ddim tystiolaeth o gwbwl bod hynny'n digwydd ond mae'r peth yn bosib ac mae hynny'n werth cofio os ydych chi'n defnyddio prisiau betio fel rhyw fath o ganllaw ynghylch canlyniadau etholaeth.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:05 ar 26 Chwefror 2010, ysgrifennodd Wil:

    Roedd penaethiaid ymgyrch Dafydd Wigley yn etholiad gyntaf 1974 yn gofalu mai Dafydd oedd y ffefryn ym mhob un o siopau betio Caernarfon gydol yr ymgyrch. Roedd pobl yn dueddol o feddwl bob y bwci'n gwybod popeth a bod Dafydd yn siwr o ennill. Roedden nhw'n iawn, a, drwy, gyd-ddigwyddiad hapus, roedd penaethiaid yr ymgyrch ar eu hennill hefyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.