Cefn y rhwyd
Roedd heddiw'n ddiwrnod prysur i'r gweinidog treftadaeth, Alun Ffred Jones. Roedd yn gorfod wynebu ei sesiwn gwestiynau misol ac hefyd ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar dwristiaeth.
Nawr gall neb wadu bod y Gweinidog yn gwybod ei ffwtbol. Mae cynhyrchydd C'mon Midffild yn gadeirydd clwb Dyffryn Nantlle, wedi'r cyfan. Fe ddylai fe o bawb wybod bod canmol un neu ddau dîm a pheidio enwi eraill yn gofyn am drwbl.
Doedd dim syndod felly bod Ann Jones ar ei thraed ar ôl i Ffred ganmol perfformiadau clybiau Caerdydd ac Abertawe. Cwyno oedd aelod Dyffryn Clwyd nad oedd Ffred wedi crybwyll tîm y Rhyl. Doeddwn i ddim yn gallu deall y gwyn mewn gwirionedd. Wedi'r cyfan mae'r Rhyl yn bedwerydd yng Nghynghrair Cymru ar hyn o bryd. Pam eu canmol nhw yn hytrach na Llanelli, y Seintiau Newydd neu Aberystwyth?
Y syndod mawr i mi oedd bod aelodau Casnewydd heb ymyrryd. Wedi'r cyfan mae'r alltudion rhyw ugain pwynt ar y blaen i bob clwb arall yn "Conference South" ac yn dechrau breuddwydio am ddychwelyd i wlad addewid y Cynghrair Pêl Droed.
Efallai bod ymyrraeth Ann wedi drysu'r gweinidog. Yn y ddadl ar dwristiaeth dechreuodd frolio am faint mae'r llywodraeth wedi gwario ar adfywio "trefi glan môr" gogledd Cymru. Fe wnaeth e restri'r trefi hynny gan enwi'r Rhyl (wrth gwrs), Bae Colwyn, Llandudno, Bangor, Amlwch, Llangefni a Chaergybi.
Llangefni? Glan Môr? Ydy newid hinsawdd wedi mynd mor bell yn barod? Costa Cefni amdani!