³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cerdiau ar y bwrdd

Vaughan Roderick | 14:45, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010

playing_cards.jpgDydw i ddim am i bob post yr wythnos hon fod ynghylch y refferendwm. Hwyrach y bydd 'na gyfle'n hwyrach heddiw i sgwennu ynghylch ymddiswyddiad disymwth archwiliwr cyffredinol Cymru- os ydyn ni'n llwyddo i ganfod mwy ynghylch y stori honno!

Yn y cyfamser does dim arwydd bod y gêm bocer rhwng y pleidiau yn mynd i bennu'n fuan. I'ch atgoffa o'r fathemateg 39 o'r 40 angenrheidiol yw'r uchafswm o aelodau y gall y llywodraeth alw arnyn nhw. Mewn gwirionedd mae'r ffigwr yn agosach at drideg pedwar gyda thri aelod yn absennol oherwydd salwch a'r Llywydd ac Is-lywydd wedi eu gwahardd rhag pleidleisio.

Mae'r llywodraeth o hyd yn gobeithio cyrraedd y trothwy ond mae'n ymddangos ar hyn o bryd ei bod yn anfodlon roi'r fath o addewid ynghylch dyddiad y refferendwm y mae'r gwrthbleidiau yn gofyn amdano.

Dadl y llywodraeth yw bod hynny'n ddiangen ar hyn o bryd. Mae'r llywodraeth yn dadlau bod yn rhaid cynnal ail bleidlais yn y cynulliad i gadarnhau dyddiad y refferendwm gyda'r un fath o fwyafrif amodol yn ddiweddarach yn y broses. Os oedd y gwrthbleidiau am wrthwynebu unrhyw ddyddiad penodol dyna yw'r adeg i wneud.

Mae honniad y Llywodraeth yn ffeithiol gywir. Mae'n anodd credu nad yw'r gwrthbleidiau yn gwybod hynny er bod y ddeddf braidd yn ddryslyd. Cymal 104 sy'n ymwneud ar bleidlais gyntaf a chymal 103 a'r ail un!

Mae dadl y llywodraeth yn rhesymegol ond ar drothwy etholiad cyffredinol nid rhesymeg sydd ym malen meddyliau pob gwleidydd! A phwy all feio'r gwrthbleidiau am amau bod amharodrwydd y llywodraeth i roi addewid digon hawdd a syml yn dystiolaeth bod gweinidogion yn bwriadu cynnal y refferendwm ym mis Mai 2011.

Mae'r pleidiau yn dal i drafod ond mae'n annhebyg y bydd na unrhyw ildio tir gan y llywodraeth tan wythnos nesaf. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal eu Cynhadledd Gymreig dros y Sul ac mae Llafur a Phlaid Cymru'n ddigon hapus i weld y ffrae yma'n denu'r penawdau ac yn taflu cwmwl dros drafodaethau'r blaid.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:50 ar 3 Chwefror 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Ceisio meddwl am fanteision cynnal y refferendwm ar ddyddiad etholiadau'r cynulliad....cost efallai? Anodd meddwl am unrhyw rheswm arall.

  • 2. Am 00:13 ar 4 Chwefror 2010, ysgrifennodd blew:

    osgoi blinder etholiadol... election fatigue, ondife!

  • 3. Am 17:28 ar 4 Chwefror 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Dewi - 2 fantais posib: Pobl sy'n credu ym modoaleth y Cynulliad sy'n dueddol o bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Byddai pleidlais 'ie' yn fwy tebygol o gyplysu'r ddau etholaid. Yn ail, os yw'r Toriaid yn ennill yr etholiad Brydeinig yna bydd digon o amser wedi pasio erbyn etholiad y cynulliad i'r ymdeilad gwrth-Doriaidd dyfu. Bydd y mwyafrif llethol o Lafurwyr am weld y cynulliad yn cael mwy o rym erbyn hynny

  • 4. Am 17:20 ar 5 Chwefror 2010, ysgrifennodd huw prys jones:

    Cytuno'n llwyr â Daniel. Mae'r hydref yn rhy gynnar - mi fydd pobl wedi diflasu efo gwleidyddiaeth ar ôl yr etholiad cyffredinol. Hefyd ni ddylid diystyru'r gost o gynnal refferendwm yn unswydd - mi fydd yn fêl ar fysedd yr ochr 'Na' i ddadlau cymaint amgenach fyddai gwario'r pres yma ar gyflogi rhagor o nyrsys etc. O'i gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y cynulliad mi fyddai'r syniad o refferendwm yn llawer mwy derbyniol gan y cyhoedd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.