Holl yn llon
Mae'n ddigon hysbys bod yr hen ffefryn noson lawen "Moliannwn" wedi ei chyfansoddi yn yr Unol Daleithiau ond oes unrhyw un yn gallu esbonio'r stori yma?
Wrth i Americanwyr symud tuag at eu hetholiadau "hanner tymor" mae'r Democratiaid yn poeni eu boliau am gyfres ddrudfawr o arolygon barn gan gwmni Rasmussen sy'n darogan dyddiau drwg i'w hymgeiswyr. Yn ôl y Democratiaid mae methodoleg Rasmussen yn ffafrio eu gwrthwynebwyr ac mae'r ffaith bod y cwmni wedi cynnal mwy o arolygon nac unrhyw gwmni arall yn ystod y misoedd diwethaf yn llywio a chamliwio y naratif gwleidyddol.
Ond pwy sy'n talu am arolygon Rasmussen? Yn ôl Rasmussen ei mae cronfa fuddsoddi wedi prynnu i mewn i'r cwmni yn ddiweddar. Enw'r gronfa yw ""
Fy mwyn gyfeillion dewch ynghyd! Rhwng gliniaduron Bala Cynnwyd a hwyl y noson lawen mae'n ymddangos nad yw dylanwad Cymru wedi llwyr ddarfod ar y mur uchaf!
Hyd y gwelaf i mae'r enw "Noson Lawen" wedi ei ddewis ar fympwy. Dyma esboniad y gronfa;
"Noson Lawen"; A traditional Welsh celebration frequently held at the successful conclusion of the harvest season in a place where successful harvests are not taken for granted.
Wel, ie ond...!
SylwadauAnfon sylw
"Wales: a place where successful harvests are not taken for granted"
Fydda fo ddim yn slogan gora i Groeso Cymru na fydda!
wedi'i ddewis ar fympwy, falle... ond hefyd, cyfeiriad y partner, Earl Macomber yw 558 West Uwchlan Avenue, Lionsville... difyr