³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anoracia

Vaughan Roderick | 10:33, Dydd Gwener, 5 Chwefror 2010

558.jpgMae 'na benwythnos bach prysur o fy mlaen. Mae gen i "Dau o'r Bae" a'r podlediad i'w cwpla yng Nghaerdydd cyn heglu hi am Abertawe ar gyfer cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Efallai mai meddwl am y gynhadledd honno sydd wedi sbarduno mi i bostio ynghylch diwygio'r drefn etholiadol. Wedi'r cyfan mae'n anodd trafod gwleidyddiaeth ac aelod o'r blaid felen heb i PR godi ei ben yn hwyr neu'r hwyrach!

Nid cynrychiolaeth gyfrannol oedd yn cael ei gynnig gan Gordon Brown yn ei araith ynghylch y cyfansoddiad ddechrau'r wythnos wrth gwrs. Yn lle hynny cynnig refferendwm ynghylch cyflwyno'r "bleidlais amgen" gwnaeth y Prif Weinidog. Pleidlais amgen yw'r cyfieithiad cywir, gyda llaw, ond sylwer mai "alternative" yw ystyr amgen yn y cyd-destun yma. Mae p'un ai ydy hi'n bleidlais "amgen" yn ystyr arall y gair yn fater arall!

Y peth cyntaf i ddweud yw nad yw defnyddio'r bleidlais amgen yn debyg o gynhyrchu senedd gyfrannol. Am y rheswm hynny gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal yn y bleidlais seneddol yr wythnos nesaf. Fe fyddai hynny'n safiad dewr. Wedi'r cyfan fe fyddai'r blaid yn elwa o system pleidlais amgen ac mae 'na beryg y gallai methu cefnogi refferendwm ddanfon neges ddryslyd iawn i'r etholwyr.

Mae'r un peth yn wir am y bleidlais ynghylch refferendwm yn y cynulliad, gyda llaw. Gyda'r pleidleisiau yn y Bae a San Steffan ar yr un diwrnod fe fydd yn rhaid i'r blaid feddwl yn ofalus iawn am ganlyniadau ei phenderfyniadau. Gallai esbonio pam fod y blaid wedi rhwystro'r etholwyr rhag cael dweud eu dweud ynghylch rhagor o ddatganoli a newid y drefn bleidleisio fod yn dipyn o "hard sell" i blaid sydd wedi clochdar o blaid y polisïau hynny ers degawdau.

I fynd yn ôl at y bleidlais amgen ei hun, mae 'na fwy nac un fersiwn o'r system. Hanfod nhw i gyd wrth gwrs yw bod ymgeiswyr yn cael eu rhestri yn nhrefn eu dewis a bod dewisiadau cefnogwyr ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hail-ddidoli nes i ymgeisydd dderbyn 50%+1 o'r pleidleisiau.

Mewn rhai cyfundrefnau gorfodir i'r etholwyr marcio pob un ymgeisydd. Mewn systemau eraill nifer cyfyngedig sy'n gorfod cael eu rhifo. Ail ddewisiadau'n yn unig sy'n cael ei hystyried wrth ethol Maer Llundain, er enghraifft.

Os ydy'r drefn yn cael ei mabwysiadu un o'r dewisiadau pwysicaf fydd penderfynu p'un ai i ganiatáu i bobol pleidleisio "uwchben y lein" sef y drefn sy'n cael ei defnyddio yn Awstralia. O dan y drefn honno gall etholwyr naill ai rifo eu dewisiadau eu hun neu fwrw pleidlaisi i'w dewis cyntaf yn unig gan adael i'r ymgeisydd hwnnw ddidoli'r bleidlais. Mewn gwledydd sy'n defnyddio'r system yma mae'r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn gadael y dasg i'r ymgeiswyr.

Gallai trefn o'r fath gael effeithiau rhyfedd iawn. Gadewch i ni gymryd canlyniad etholiad 2005 yn Ynys Môn fel enghraifft gan gymryd bod yr etholwyr i gyd wedi pleidleisio "uwchben y lein". Dyma'r canlyniad go-iawn:

Llafur 34.6%
Plaid Cymru 31.1%
Peter Rogers 14.7%
Ceidwadwyr 11.0%
Dem. Rhydd. 6.8%
UKIP 1.0%
CCC 0.7%

Gadewch i ni ddyfalu am eiliad beth fyddai'n digwydd pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP a'r Cynghrair Cyfreithloni Canabis yn rhoi ei dewisiadau i Lafur tra bod y Ceidwadwyr yn ochri a Phlaid Cymru. Fe fyddai hynny'n gadael y canlyniad fel hyn;


Llafur 43.1%
Plaid Cymru 42.15%
Peter Rogers 14.7%

Pwy fyddai'n cynrycholi Ynys Môn? Albert Owen neu Eurig Wyn? Mater i Peter Rogers a fe'n unig fyddai hynny! Fe fyddai na "bleidlais amgen" ar y fam ynys a Peter Rogers fyddai'n cael ei bwrw! A fyddai gwleidyddion neu etholwyr Môn yn fodlon llyncu hynny?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:40 ar 5 Chwefror 2010, ysgrifennodd Robin Huw Roberts:

    I unrhywun sydd yn ymwneud a gwleidyddiaeth prifysgol dyddia ma, fydd STV (single transferable vote) yn wbath cyfarwydd iawn (Vaughan, ydi STV yr un peth a AV? Dwi'n cymryd y bo fo). Peth difir iawn fydd gweld pa mor agos fydd canlyniad y etholiad cyffredinol nesa ond un, tuag at cynrhychiolaeth PR, a sut fydd ymgyrchu yn newid i cael y pleidleisau rhif 2,3,4 ayyb.

    o.n.

    Gan fachgen yr ynys, os dachi am ystyried un ethol o dan gyfundrefn etholiadol fwy cymhleth ella ddim sir fon sa'r gora, ma Mr.Rogers a'i gefnogwyr yn criw digon anodd yw ddyfalu a'r diwrnod da.

    Hefyd, mae'r gair "amgen" wedi cael rhyw ddadeni digri, (wnech i ddallt be dwi'n son am os dachi yn rhedeg rhaglenni firefox yn y gymraeg).

  • 2. Am 13:59 ar 16 Chwefror 2010, ysgrifennodd Nangogi:

    Robin Huw Roberts - "ydi STV yr un peth a AV?" Mae'r systemau yr un peth yn y bon, ond bod AV'n cael ei ddefnyddio i ethol un person yn unig, ac STV yn cael ei ddefnyddio i ethol sawl person ar yr un pryd - mae STV'n system gyfrannol felly, tra nad yw AV. Mae'r dimensiwn gyfrannol yn cynnig llu o fanteision i etholwyr (ac i ddemocratiaeth!) nad sy'n bosib gyda system sydd ddim yn gyfrannol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.