Tipyn o sesh
Ymhen ychydig wythnosau fe fydd yr adeilad y mae'r Cynulliad yn galw "y Pierhead" neu'r "lanfa" yn cael ei ailagor i'r cyhoedd. "Swyddfa'r Docs" yw hi i rai ohonom ni o hyd ond ta beth am hynny mae'n adeilad ysblennydd a chafodd Ron Davies dipyn o fargen pan brynodd y lle am bunt o gwmni'r dociau.
Neu felly roedd hi'n ymddangos ar y pryd. Mae'r cynulliad wedi gwario ffortiwn ar adnewyddu'r adeilad ar hyd y blynyddoedd heb wybod yn iawn beth i wneud a'r lle. Defnyddio'r adeilad fel pencadlys y Llywodraeth oedd bwriad Ron Davies. Roedd 'na rinwedd i'r syniad gan wneud y gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth yn ddaeryddol eglur. Rhoddodd Alun Michael y caibosh ar y syniad gan ddadlau y dylai'r adeilad bod ar agor i'r cyhoedd ac y byddai lleoli swyddfeydd y Cabinet yno yn arwain at ddelwedd hen-ffasiwn a ffroen uchel.
Cyn codi'r Senedd defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan ymwelwyr y cynulliad er mai prin oedd yr "ymwelwyr" ac eithrio grwpiau ysgol wnaeth fentro i mewn. Erbyn hyn mae'r gwaith addysgiadol wedi symud i gyfleusterau rhagorol Siambr Hywel ac mae mwy fyth o arian wedi ei wario ar y Pierhead i'w droi'n ganolfan hyblyg ar gyfer arddangosfeydd a chyfarfodydd.
I nodi'r ail-agor trefnwyd cyfres o "sesiynau" trafod ac yn ôl y sôn mae galw mawr am docynnau. Dyw hynny ddim yn syndod i ystyried rhai o'r "enwau mawr" sy'n cymryd rhan pobol fel George Monbiot, Andrew Pierce, Golygydd Cynorthwyol y Daily Telegraph a Kevin Maguire gohebydd gwleidyddol y Mirror.
Gellir cael y manylion i gyd yn . Mae'r gwefan yn ddwyieithog ac fe fydd 'na gyfieithu ar y pryd yn y sesiynau ond mae rhai yn rhyfeddu nad oes 'na un o'r sesiynau lle fydd y Gymraeg yn brif iaith. Y cwestiwn mae rhai'n gofyn yw hwn. Os ydy'r Pierhead i fod yn symbol o'r cynulliad oni ddylai'r dwyieithrwydd bod yn fwy 'na symbolaidd?
SylwadauAnfon sylw
Doedd y trefnwyr ddim yn meddwl bod angen sesiwn Gymraeg achos yn eu tyb nhw mae Cymru yn ddigon aeddfed i ddelio gyda'r diffyg parch yma, bydde fe braidd yn blwyfol oni fydde? pwy o'r Gymry Gymraeg fedr sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r parchedusion Seisnig yma...Eleffant gwyn arall ... gwyliwch y gofod