³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anroracia

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

FT.jpgYmddiheuriadau. Rwyf wedi bod i ffwrdd o gyfrifiadur am ychydig ddyddiau. Rhoddodd y ffaith bod y cynulliad wedi ei gau gan streic y gweision sifil gyfle bach olaf i mi dacluso'r ardd cyn i'r storom etholiadol dorri o'n cwmpas!

Yn ôl yn y gwaith mae rhai cannoedd o e-byst yn fy nisgwyl. Diolch byth bod un gan Roger Scully o Adran Wleidyddiaeth Aber yno i godi calon dyn ymhlith yr holl ddatganiadau "newyddion" a stwnsh mewnol y gorfforaeth!

I'r rheiny sy ddim yn ei nabod Roger yw arch anorac yr anoracs, dyn sy'n llyncu ystadegau i frecwast- rhyw fath o x 100!

Tynnu sylw mae Roger at ganlyniadau cyfres o arolygon barn ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru sy'n dangos tuedd gyson tuag at Lafur dros y naw mis diwethaf. Yn fras mae'r gefnogaeth i Lafur wedi cynyddu o 28% yng Ngorffennaf 2009 i 37% yn arolwg diweddaraf YouGov/ITV. Mae'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng o 33% i 29% dros yr un cyfnod.

Er cystal perfformiad y blaid mae'n werth nodi bod Llafur 21% ar y blaen i'r Ceidwadwyr yn etholiad 2005. Dyw bod 8% ar y blaen yn ddim byd sbesial felly.

Mae'n bosib mai hynny wnaeth ddarbwyllo Roger i sgwennu'r erthygl ar wefan Sefydliad Materion Cymru. Ynddi, mae'n dadlau bod cyfnod goruchafiaeth y blaid Lafur yng ngwleidyddiaeth Cymru eisoes wedi dirwyn i ben ac mai patrwm amlbleidiol fydd 'na yng Nghymru o hyn ymlaen.

Heb os mae 'na sylwedd i ddadl Roger ac mewn etholiadau Cynulliad, Cyngor ac Ewrop fe fyddai'n anodd anghytuno a'r ddamcaniaeth. Dydw i ddim yn sicr bod yr un peth yn wir am yr etholiad sydd bron ar ein pennau.

Mae'n weddol amlwg bod Llafur ar lefel Brydeinig yn ceisio efelychu ymgyrch John Major yn etholiad 1992 trwy ganolbwyntio ar ffaeleddau honedig a diffyg profiad yr wrthblaid yn hytrach nac ar ei record ei hun. Mae Llafur Cymru hefyd yn gwneud hynny ond rwy'n amau hefyd ei bod wedi dysgu gwersi o etholiad 1987.

Yn yr etholiad hwnnw fe lwyddodd y blaid i ennill bron pob un o'i seddi targed yng Nghymru tra'n methu ennill llawer o dir yn Lloegr. Roedd 'na sawl rheswm am y llwyddiant yng Nghymru, sgil effeithiau streic y glowyr a chnwd o ymgeiswyr deallus ac atyniadol yn eu plith. Ond y rheswm penna am berfformiad y blaid yng Nghymru oedd ei bod wedi llwyddo i bortreadu'r etholiad fel rhyw fath o wrthryfel Cymreig yn erbyn Thatcheriaeth. Yr un oedd y neges dro ar ôl tro; "It's Wales versus the Tories."

Dyna wrth gwrs yw neges gyson Peter Hain dros yr wythnosau diwethaf ac mewn ambell i etholaeth mae'n ddigon posib y bydd y dacteg yn gweithio. Ar lefel seneddol, o safbwynt nifer y seddi, fe fyddai'n gamgymeriad i feddwl bod yr oruchafiaeth Lafur o reidrwydd ar ben. Mae angen dyn dewr i anghytuno a Roger ond y tro hwn rwyf am wneud!


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.