Tri a Deg
I bobl fel fi, cafodd eu magu yn nyddiau arian go iawn dyw tri a deg ddim yn swm enfawr- rhyw 19c mewn gwirionedd! Ni fyddai canfod arbediad o'r fath yn fawr o dasg hyd yn oed i'r Syr Wmffra mwyaf afradlon! Pam felly mae wynebau gweinidogion a mandarins fel ei gilydd yn gwelwi wrth glywed y geiriau "tri a deg" y cael eu sibrwd yng nghoridorau TÅ· Hywel?
Yn anffodus i'r llywodraeth canrannau nid sylltiau a cheiniogau yw'r tri a deg yma! Yn ôl y sibrwd mae'n rhaid canfod toriadau o dri y cant yng ngwariant cyfredol y Llywodraeth a deg y cant yn y gwariant cyfalaf yn y flwyddyn ariannol 2011-2012. Nid torriadau swllt a naw yw'r rheiny! Gellir cymryd nad geiriau gwag felly yw'r addewidion i "edrych ar bob llinell o'r gyllideb" a "gwneud penderfyniadau poenus".
Mae'n bosib y gallai cau'r gwasanaeth awyr rhwng y Fali a Chaerdydd fod yn un o'r "penderfyniadau poenus" hynny. Yn ôl y sôn os nad oes 'na gwmni awyr sy'n fodlon cynnal y gwasanaeth am fwy neu lai'r lefel presennol o gymhorthdal mae'n ymddangos bod dyddiau "Ieuanair" wedi eu rhifo.
O leiaf mae'r Llywodraeth yn awr yn gwybod na fydd 'na doriadau yn y flwyddyn ariannol sydd ar fin cychwyn os oes 'na Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Fe ddaeth y newydd hynny yn y ffordd fwyaf rhyfedd posib.
Cyhoeddodd y Torïaid dros y Sul y byddai cyllideb Llywodraeth yr Alban ar gyfer 2010-2011 yn "cael ei pharchu". Roedd y cyhoeddiad yn ganlyniad trafodaethau rhwng yr SNP a'r Ceidwadwyr ond mae'n ymddangos nad oedd Ceidwadwyr Cymru na chwaer blaid yr SNP, Plaid Cymru, yn gwybod affliw o ddim am y trafodaethau hynny!
Yn sicr doedd Carwyn Jones ddim yn gwybod am y peth pan ofynnwyd cwestiwn am y cytundeb mewn cynhadledd newyddion heddiw. Na phoener! Ar ôl galwad ffôn sydyn gan Nick Bourne i swyddfa George Osborne cafwyd addewidion cyffelyb ynghylch cyllidebau Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae hynny'n newyddion da i bawb, byddai dyn yn tybio, ac eithrio, efallai, y Democratiaid Rhyddfrydol. Wedi'r cyfan mae'n ein hatrgoffa nad y blaid honno yw'r unig un y gallai'r Ceidwadwyr wahodd i'r ddawns os oes 'na senedd grog.