Wyt ti'n cofio...
Efallai eich bod yn cofio y blaid fach fyrhoedlog "Cymru Ymlaen" neu "Forward Wales".
Mae'n ymddangos bod un o'i dau "enw mawr", Ron Davies, o fewn blewyn i fod yn ymgeisydd cynulliad Plaid Cymru yng Nghaerffili.
Ond beth am "enw mawr" arall y blaid, John Marek?
Fe, wedi'r cyfan, wnaeth sefydlu'r blaid ar ôl iddo golli'r enwebiad Llafur yn Wrecsam (chwedl Llafur) neu ar ôl i Lafur troi ei chefn ar sosialaeth (chwedl John Marek).
Sut mae John am barhau a'r frwydr dros sosialaeth? Ydy e wedi cefni ar wleidyddiaeth, tybed?
Jyst gofyn.
Diweddariad Dydd Llun. Mae John Marek wedi ymuno a'r Ceidwadwyr. Dyna i chi gyd-ddigwyddiad!
SylwadauAnfon sylw
Does gen i ddim llawer i ddweud am John Marek. Credaf mai oportiwnydd gwleidyddol ydyw.
Oes na fath beth a sosialaeth mwyach?
Mae'n debyg fod y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn fodlon derbyn pob math!
Sothach efallai?
Mae pob plaid yn derbyn pob sothach. Dwi'n blino gweld penwadau yn y Daily Post am fan wleidyddion neu cynghorwyr yn neidio o un cwch i'r lalll.
Buasai Plaid Cymru wedi gwirioni petai John Marek wedi ymuno a hwy, a phetai'r carwr moch daear enwog yn eu cefnogi, buasai stwr mawr .