Darllen y siart
Fe wnes i ddigwydd taro mewn i Jonathan Evans y cyn weinidog a darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd yn ystod ymweliad David Cameron a Chymru ddoe. Roedd e mewn hwyliau da hefyd gan wenu pan wnes i ofyn iddo ai fe oedd "once and future king" Ceidwadwyr Cymru.
Ond roedd Jonathan yn crafu ei ben am rywbeth. Bydd neb yn synnu i wybod mai rhai o'r "bar charts" melltigedig yna yn nhaflenni rhai o'i wrthwynebwyr oedd yn peri'r pendroni.
Yn etholiad 2005 cadwodd Julie Morgan y sedd gyda 39% o'r bleidlais. Y Ceidwadwyr oedd yn ail gyda 36.5% a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd gyda 18.7%. Yn etholiad y Cynulliad derbyniodd y Ceidwadwyr 45.3% o'r pleidleisiau gyda Llafur ar 30.9% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 12.7%.
Eto i gyd yn ôl siart y Democratiaid Rhyddfrydol (quelle suprise) "ras dau geffyl yw hon" rhyngddyn nhw a'r Ceidwadwyr. Cyfanswm cynghorwyr y pleidiau yn yr etholaeth sy'n cael eu dangos yn y siart.
Fel mae'n digwydd mae UKIP hefyd o'r farn mai dau geffyl sydd yn y ras yng Ngogledd Caerdydd- nhw a'r Ceidwadwyr. Mae'n rhai bod nhw'n iawn. Wedi'r cyfan, mae ganddyn nhw siart i brofi'r peth! Cyfanswm pleidleisiau'r pleidiau trwy Brydain gyfan yn yr etholiadau Ewropeaidd sy'n cael eu dangos y tro hwn.
Wrth drafod defnydd y Democratiaid Rhyddfrydol o'r siartiau yma draw ar mae Cai yn dweud hyn;
Petai'r rhesymeg yn cael ymestyn ar hyd Cymru (ac y byddai pobl yn ddigon gwirion i'w gredu) yna byddai pleidlais y Lib Dems yn syrthio trwy'r llawr - mewn lleiafrif gweddol fach o etholaethau yn unig maent yn gyntaf neu'n ail.
Wel ie, ond... Pam cyfyngu'ch hun i ganlyniad yr etholiad diwethaf pan mae 'na loddest o ystadegau eraill i ddewis ohonyn nhw?
Yn achos Gogledd Caerdydd mae'r dacteg yn un weddol hurt ta beth. Mae'n dibynnu ar y cynsail amheus nad yw'r etholwyr yn gwybod mai aelod seneddol Llafur sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd a bod yr arolygon yn awgrymu bod y ras ar lefel Brydeinig yn un agos.
Go brin bod etholwyr un o etholaethau mwyaf ymylol Cymru mor ansoffistigedig a hynny!