Bod yn neis
"Nice man, charming wife, no policies". Dyna oedd disgrifiad Chris Bryant o Nick Clegg y bore 'ma wrth i fawrion y Blaid Lafur drafod hynt a helynt yr ymgyrch gyda'r wasg.
Fe roddodd Carwyn Jones a Jane Hutt ychydig mwy o gig ar y fath o arfau y maen nhw'n paratoi eu defnyddio yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn eu plith mae'r ffaith bod y blaid wedi gwrthwynebu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn ogystal â "llanast" honedig y cynghorau y mae'r blaid yn eu harwain.
Cofiwch, dyw hi ddim yn eglur y bydd yr arfau'n cael eu defnyddio. Hyd yma mae Llafur o'r farn bod yr ymchwydd yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio o'i phlaid.
Mae'r rheswm am hynny i'w gweld ar safleoedd seffolegol sy'n darogan mai Llafur fyddai'r blaid fwyaf mewn senedd grog pe bai'r patrwm presennol yn parhau. Y Ceidwadwyr oedd a'u trwynau ar y blaen cyn y ddadl deledu cyntaf.
Yn y cyfamser mae 'na un elfen sydd yn gwneud hi'n anodd iawn i ddarllen perfeddion yr etholiad yma. Fe ddywedodd rhywun mai hwn yw etholiad cyntaf "cenhedlaeth X-Factor" ac mae Nick Clegg yw'r SuBo wleidyddol.
Yn sicr o ddarllen manylion yr arolygon barn mae'n amlwg mai ymhlith yr ifanc y mae'r symud mwyaf wedi bod ac fel dywedodd un sinig "a fydd y rheiny'n pleidleisio ar ôl canfod nad oes modd gwneud hynny trwy decstio?"
Yn ôl ym Mis Mawrth fe gyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol adroddiad yn awgrymu mai dim ond 44% o bobol rhwng 17 a 24 sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Fe fydd y ffigwr hwnna wedi cynyddu byddai dyn yn tybio. Serch hynny mae'n reit frawychus.
SylwadauAnfon sylw
"Nice man, charming wife, no policies". - Nag yw'r beirniadaeth o'r LibDems yn gyson yw'r ffaith fod GORMOD o bolisiau gyda nhw?? "Charming Wife" - Yr unig prif 'partner' sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar y llwybr ymgyrch! Rhaid wneud yn well Chris bach.