Chocs Awe
Blog gwleidyddol yw hwn. Dydw i ddim wedi bod yn talu lot o sylw i weddill y newyddion yn ddiweddar ond mae'n debyg bod 'na rhyw drafferthion wedi bod yn ein meysydd awyr. Rhywbeth i wneud a llosgfynydd, os deallaf yn iawn.
Ta beth mae dau* aelod cynulliad yn gaeth yn America ac yn ôl Carwyn Jones does 'na ddim cynllun i hela cwch i'w cludo yn ôl. Aelodau Llafur yw'r ddau fel mae'n digwydd.
Tan yn ddiweddar fe fyddai'r sefyllfa wedi bod yn ddigon hawdd i ddelio a fe. Fe fyddai'r chwipiaid wedi trefnu pario'r aelodau a dau aelod o feinciau gwrthbleidiau.
Yn anffodus i'r llywodraeth, ar ôl ei phenodi yn brif chwip Llafur y llynedd penderfynodd Janice Gregory y dylai trefniadau pario fod yn bethau prin o hynny ymlaen. Rhwystro Alun Cairns rhag treulio gormod o amser yn ymgyrchu ym Mro Morgannwg oedd ei chymhelliad yn nhyb rhai.
Os felly mae'n sicr y bydd Alun a gwen ar wyneb o wybod mae'r ddau aelod alltud yw Gwenda Thomas... a Janice Gregory!
O son am hedfan fe fydd 'na gyhoeddiad ynghylch gwasanaeth y Fali (yr un dydyn ni ddim yn cael galw'n Ieuanair) yn fuan iawn. Yn ôl y llywodraeth mae nifer sylweddol o gwmnïau wedi dangos diddordeb mawr yn y gwasanaeth.
Mae hynny'n godi cwestiwn diddorol. Pam na cheisiodd yr un o'r cwmnïau hynny am y cytundeb rhai misoedd yn ôl?
*ON; Mae pethau'n waeth nac oeddwn i'n meddwl! Rwyf newydd glywed bod Brian Gibbons a Christrine Chapman hefyd dramor.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n cofio blog gynhyrach yn y flwddyn gan y chwi, yn dweud un o'r manteision o fod yn 'flogydd' ar y ³ÉÈËÂÛ̳ ydy clwad 'sibrydion'.
Felly a allwch chi ddatgelu pwy sydd wedi cael y tender newydd rhwng y Fali a Caerdydd?? cwmni adnabyddus? a hefyd unrhyw newyddion arall gan cyngor mon/wag am ail le y all pobol hedfan i o Mon?
Fel rhywun sy'n talu'r treth teldu, dwin gorchymwyn chi i ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydych hefo [neu 'ddim' hefo ;-)] !!!!!!!!!!
Dewi, fe fydd 'na gyhoeddiad heddiw neu'n gynnar wythnos nesaf, mae'n debyg. O'r hyn fi'n clywed mae nifer sylweddol o gwmniau wedi ceisio. Dydw i ddim yn gwybod ond mae'n bosib bod Aer Arran/ Aer Lingus Regional yn eu plith. Nhw sy'n darparu gwasanaethau rhwng Caerdydd a Dulyn/Corc. FlyBE wnaeth dderbyn rhai o gytundebau Highland Airways yn yr Alban. Mae'r cwmni hwnnw hefyd hedfan o Gaerdydd yn barod.