Hawdd yw anghofio...
Dwi'n ceisio cadw'n gall y dyddiau 'ma trwy ddarllen pethau a gwneud ambell bost sydd a dim byd, neu fawr ddim byd, i wneud a'r etholiad. Mae hwn yn un ohonyn nhw!
Rwyf wedi crybwyll o'r blaen ar y blog bod llawer o wreiddiau fy nheulu yn yr ardal fynyddig rhwng Pontypridd a Chaerffili ardal sy'n cynnwys mynyddoedd Eglwysilan a Meio yn ogystal â chwm Aber. Roedd fy hen dad-cu yn weinidog yn yr ardal ac fe gladdodd nifer o'r 439 o lowyr fu farw yn nhanchwa Senghennydd yn 1913- y trychineb gwaethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain. Mae'r rhesi o gerrig bedd ym mynwentydd Eglwysilan a chapeli'r cylch o hyd yn ddigon i dorri calon dyn.
Roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod bron popeth oedd 'na i wybod am y trychineb sydd wastad wedi bod o ddiddordeb mawr i mi. Profiad rhyfedd felly oedd canfod y gerdd yma ar Americanaidd heddiw. Doeddwn i erioed wedi dod ar ei thraws hi o'r blaen.
Of course there was an outcry
At so many lives cut short
And the owners faced stern justice
Before the local court.
But really it would never do
To give too great offence.
They found no case to answer
Of wilful negligence.
They were in direct contravention
of the Mines and Quarries Act,
But it was considered impolite
To dwell upon the fact.
Still for such a fatal mischance
A culprit must be found
And so they fined the manager
Five and twenty pounds.
It was a source of comfort
To mother, child or wife,
To find their menfolk valued
At a shilling for each life.
"Senghennydd, 1913" yw teitl y gerdd ac mae'n darllen fel un o eiddo Idris Davies (neu Harri Webb, efallai) i mi ac es i chwilio amdani ar y we. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad yw'r gerdd yn ymddangos a'r unrhyw wefan Cymreig, hyd y gwelaf i. Yn hytrach mae i'w gweld yn aml ar wefannau gwleidyddol ac undebol yn yr Unol Daleithiau yn fwyaf diweddar mewn eitemau ynghylch y trychineb glofaol yng Ngorllewin Virginia yr wythnos hon.
Efallai nad yw'r gerdd yn siarad â ni yng Nghymru heddiw yn sgil gwladoli a thranc y diwydiant glo yn yr un modd ac mae'n dal i siarad â gweithwyr yng nglofeydd preifat a pheryglus yr UDA.
Ta beth, os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth ynghylch tarddiad y gerdd byswn yn falch i gael gwybod.
SylwadauAnfon sylw
Diddorol iawn, Vaughan. Rhaid peidio a gadael i'r pethau hyn fynd dros gof.
Un peth sy'n od am y penillion hyn. Ym 1954 y pasiwyd y Mines and Quarries Act, ac nid wyf yn credu bod deddf arall cyn hynny'n dwyn yr enw hwnnw.
Bore da Vaughan,
Fel chithau rwy'n falch o ambell gyfle i ddianc rhag yr etholiad!
Rwy'n flin nad oes gen i wybodaeth pellach am benillion Senghennydd, ond ceir balad tebyg am drychineb glofa Gresffordd yng ngogledd Cymru 1934.
Fe'r recordiwyd gan Ewan McColl a'r Henessys ymhlith eraill:
The Gresford Disaster
You've heard of the Gresford Disaster,
Of the terrible price that was paid;
Two hundred and forty two colliers were lost,
And three of the rescue brigade.
It occurred in the month of September
At three in the morning the pit
Was racked by a violent explosion
In the Dennis where gas lay so thick.
Now the gas in the Dennis deep section
Was heaped there like snow in a drift,
And many a man had to leave the coal-face
Before he had worked out his shift.
Now a fortnight before the explosion,
To the shotfirer Tomlinson cried,
"If you fire that shot we'll be all blown to hell!"
And no one can say that he lied.
Now the fireman;s reports they are missing
The records of forty-two days;
The collier manager had them destroyed
To cover his criminal ways.
Down there in the dark they are lying.
They died for nine shillings a day;
They have worked out their shift and now they must lie
In the darkness until Judgement day.
Now the Lord Mayor of London's collecting
To help out the children and wives;
The owners have sent some white lilies,dear God,
To pay for the poor colliers' lives.
Farewell all our dear wives and children
Farewell all our comrades as well,
Don't send your sons down the dark dreary pit
They'll be doomed like the sinners in hell.
Pob hwyl,
Alun Llewelyn.