³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tua'r Dwyrain

Vaughan Roderick | 16:06, Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2010

Newport_transporter.jpgRwy'n amau nad yw llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gyfarwydd iawn â Dwyrain Casnewydd- y "Casnewydd arall" yr ochor draw i'r afon. Wedi'r cyfan, hon yw'r etholaeth gyda'r nifer lleiaf o siaradwyr Cymraeg.

Dyw'r ardal ddim yn anniddorol mae Castell Cil-y-coed, er enghraifft, yn haeddu ymweliad a Rodney Parade yw'r unig le bellach i brofi awyrgylch gem rygbi traddodiadol.

Yn wleidyddol dyw'r etholaeth ddim, gan amlaf, yn cael llawer o sylw. Yr unig dro wnaeth newyddiadurwyr dalu sylw i'r lle mewn gwirionedd oedd etholiad 1997 pan wnaeth Arthur Scargill herio'r cyn-dori Alan Howarth oedd wedi ei barashiwtio i mewn i'r sedd ar y funud olaf.

Mae Dwyrain Casnewydd yn sedd darged i'r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs ond mewn gwirionedd targedi'r sedd yn etholiad cynulliad 2011 oedd y blaid. Ar sail eu profiad yng Nghanol Caerdydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu, ac rwy'n cytuno, ei bod hi'n haws troi cefnogaeth ar lefel cyngor yn llwyddiant mewn etholiad cynulliad nac mewn etholiad seneddol.

Ennill y sedd cynulliad yn 2011 ac yna'r sedd seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf oedd y cynllun, dybiwn i. Yn sicr, rwyf wastod wedi cael yr argraff mai ym Mae Caerdydd ac nid San Steffan yr oedd yr ymgeisydd, Ed Townsend yn gweld ei ddyfodol.

Ta beth, mae'r blaid yn ymddangos yn fwyfwy hyderus y gallan nhw ennill y sedd y tro hwn. Yn ôl y blaid mae ei ffigyrau canfasio yn awgrymu y bydd hi'n bosib cymryd y sedd mewn un naid, fel petai er bod hi'n bell o fod yn y bag.

Yn bersonol rwy'n amheus ac mae'r bwcis i gyd yn awgrymu mai Llafur yw'r ffefrynnau o hyd. Serch hynny mae'n codi'r posibilrwydd rhyfedd y gallai Llafur golli ei "sedd ddiogel" yng Nghasnewydd tra'n cadw ei "sedd ymylol" yng ngorllewin y ddinas.

Mae rhestr o'r ymgeiswyr yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:55 ar 27 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes modd cael gwybodaeth am nifer y pleidleiswyr post sydd yn bodoli ymhob etholaeth a hefyd y % o bleidleiswyr post wnaeth bleidleisio'r tro diwethaf. Fe dybiwn i fod y mwyafrif o bleidleiswyr post wedi cyrraedd os nad wedi ei dychwelyd bellach felly mae rhan o'r boblogaeth wedi penderfynu cyn y ddadl olaf.

    Oes na rhagamcamion am y nifer fydd yn bendant yn pleidleisio. Oes perygl y bydd pobl wedi cael llond bol ac yn aros adref. Dwi yn cael yr argraff fod na nifer o pobl yn ansicr o hyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.