Wrth eu boddau...
Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Aberconwy, Guto Bebb "wrth ei fodd" a pholisi yswiriant cendlaethol ei blaid yn enwedig y darn sydd, yn ol un o daflenni Guto, yn eithrio busensau bach o dalu yswiriant y deg aelod cyntaf o'i staff.
Wrth gwrs bod Guto wrth ei fodd a'r polisi. Fe fyddai perchnegion gwestai a llefydd gwely a brecwast Llandudno wrth eu boddau hefyd a pholisi o'r fath.
Ond beth yw'r polisi'r blaid mewn gwirionedd? Dyma ar wefan swyddogol y blaid.
"Any new business started in the first two years of a Conservative Government will pay no Employer National Insurance on the first ten employees it hires during its first year."
Ydy hynny'n golygu'r un peth, dywedwch? Mae 'na am hyn ar y prif safle.
Hefyd wrth ei fodd heddiw mae'r bythol wyrdd Peter Rogers sydd wedi derbyn caniatad gan ei feddygon i sefyll ar Ynys Môn yn dilyn llawdriniaeth.
Fe fydd Ceidwadwyr yr ynys ac i raddau llai pobol Plaid Cymru yn diawlio'u lwc ond oedd unrhyw un yn credu mewn gwironedd y byddai unrhyw beth dan haul yn rhwystro Peter rhag sefyll?