Y gŵr sydd ar y gorwel
Mae hi wedi bod yn fore prysur gyda Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio eu maniffestos. Yn ddigon ffodus roedd y ddau yn ddigon agos at ei gilydd gan sicrhau nad oedd yn rhaid i selogion bybyl y Bae deithio'n rhy bell o'u cynefin. Credwch fi, mae 'na ambell un yn lle 'ma sy'n dioddef o "banic attacks" bob tro maen nhw'n gorfod mentro i'r gogledd o'r brif lein rheilffordd!
Digon di-nod oedd lansiad y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe'i cynhaliwyd mewn ystafell gyfarfod oedd yn fwy addas i gyfarfod o'r Rotari na sbloets cyfryngol gyda Jenny Willot a Kirsty Williams yn llywio'r peth.
Doedd dim son am Roger Williams, y gŵr a fyddai'n Ysgrifennydd Cymru pe bai'r blaid yn ffurfio llywodraeth. Nid bod hynny'n debyg o ddigwydd, wrth gwrs, ond roedd ei absenoldeb yn rhyfedd.
Mae'n amhosib dychmygu Llafur Cymru yn cynnal lansiad heb Peter Hain, er enghraifft. Cofiwch, efallai y dylai Plaid Cymru fachu'r syniad o gelu'r arweinydd seneddol o gofio'r smonach achosodd Elfyn Llwyd ar ddiwrnod ei lansiad hi!
Ta beth, beth oedd y rheswm am absenoldeb Roger?
"He's not as photogenic as me" oedd ateb Kirsty. Roedd hi'n tynnu coes... efallai.