Mynd a dod
Mae bwrdd rheoli Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn cwrdd heddiw i drafod p'un ai i dderbyn ymddiswyddiad Alun Cairns o'r Cynulliad ai peidio.
Mae'n sicr eich bod yn cofio problem y blaid. Roedd ganddi ymrwymiad yn ei maniffesto i gael gwared a'r hyn a elwir yn "double jobbing". Ar y llaw arall roedd y syniad o groesawi'r ail berson ar restr Geidwadol Gorllewin De Cymru sef Chris Smart yn dipyn o hunllef i'r arweinyddiaeth.
Beth sydd wedi digwydd felly? Wel mae Alun yn mynd i barhau fel Aelod Cynulliad tan etholiad 2011 ond fe fydd yn gwneud hynny'n ddigyflog.
Mae Alun yn aros felly. Ond gesiwch beth?
Dwi'n meddwl y bydd Aelod Cynulliad arall yn cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo o'r Bae o fewn yr oriau nesaf.
SylwadauAnfon sylw
P'un Å·ch chi'n feddwl, Vaughan - AC yn cyhoeddi yn yr oriau nesa, neu yn ymddiswyddo yn yr oriau nesa?!
Pa ods gelen i ar Rhodri Glyn?
Be'n union ydi'r broblem efo Chris Smart felly? Ydi o'n eithafol mewn rhyw ffordd?
"Dadleuol" yw'r gair, Dylan, yn hytrach nac eithafol! Google yw dy ffrind! Cyfeirio at Mike German oeddwn i, Harold. Fe fydd yn ymddiswyddo yn yr wythnosau nesaf. Ei wraig Veronica fydd yn cymryd ei le.
Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies yn dal i aros felly!