Rhoi'r bai ar bechod
Wel barodd honna ddim yn hir! Ydych chi'n cofio'r holl son yna am "berthynas adeiladol a phroffesiynol rhwng llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig"? Wedi went.
Mewn her agored i Cheryl Gillan mae Carwyn Jones newydd gyhoeddi drafft Llywodraeth Cymru o'r hyn ddylai fod ar y papur pleidleisio mewn refferendwm.
Dyma'r rhagair esboniadol;
Ar hyn o bryd mae'r Cynulliad yn cael deddfu ar rai pethau, ond nid ar bethau eraill, sy'n effeithio ar bobl Cymru yn unig.
Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y dylai'r Cynulliad gael deddfu ar bopeth sy'n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ond dim ond os bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cefnogi hynny mewn refferendwm y gall hynny ddigwydd.
Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a llywodraeth leol. Ni fyddai modd i'r deddfau ymwneud â nawdd cymdeithasol, amddiffyn a materion tramor.
A dyma'r cwestiwn;
Ydych chi am i'r Cynulliad gael y pŵer yn awr i ddeddfu ar yr holl feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru?
YDW
NAC YDW
Mae Carwyn wedi sgwennu at ysgrifennydd Cymru yn ffurfiol yn gofyn am gynnal y bleidlais ym Mis Hydref. Mae Swyddfa Cymru a'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi awgrymu bod yr amserlen yna'n amhosib. Mae'n bryd i'r eilyddion adael y sgwâr focsio!
SylwadauAnfon sylw
Hmm, pam na fase Carwyn Jones, Rhodri Morgan a Hain wedi sortio hyn i gyd allan cyn lecsiwn Llundain?
Arnyn nhw mae'r bai nawr fod y refferendwm yn y fantol.
Rho buddiannau tymor byr Llafur cyn Cymru ... yr un hen stori gan Lafur mae gen i ofn.
Mae geiriau fel 'codi pais ar ôl piso' yn did i'r meddwl. Efallai mai dyna ddylse wedi bod yn benawd i'r darn yma Vaughan.
A dyna'r gwaith nag oedd Hain yn gallu gwneud oherwydd bod etholiad ar y gweill. Does bosib taw'r Blaid Lafur sydd a'u hwynebau'n goch os taw dyna oedd isie?
Ydy'r Blaid Lafur wir yn credu bod pobl Cymru yn ddigon twp i dderbyn (neu gredu) y gemau plentynaidd hyn? A chwestiwn pwysicach, o bosib - ydy'r Blaid Lafur yn gywir? Tra mod i wrthi, os taw dyma'r safon 'yn ni'n erfyn gan ein gwleidyddion, ydyn ni'n haeddu mwy o bwerau?
Yr unig gysur sydd, bron a bod, a ninnau ar fin gweld amser caled yn economaidd - sy'n ddigon i godi ofn ar rywun a dweud y gwir - ydi fod pethau'n mynd i fod yn hynod, hynod o ddiddorol yn wleidyddol. Doeddwn i ddim wedi credu am eiliad y byddai yna berthynas dda rhwng y ddwy lywodraeth, a pha sail oedd yna i unrhyw un gredu hynny?
Mae ymgyrchoedd etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa ac etholiad nesa San Steffan wedi hen ddechrau yn barod.
Beth oedd geiriad refferendwm 1997? Roeddw ni *lot* rhy ifanc i bleidleisio.
Dydy bod yn rhan o'r ymgyrch "YDW" ddim yn swnio mor apelgar a bod yn rhan o'r ymgyrch "IE" rhywsut...
Neu a'i opsiynnau 'YDW' ac 'NAC YDW' oedd yna yn 1997 jest fod yr ymgyrchoedd wedi optio am y slogannau 'IE' a 'NA'?
Os cofiaf yn iawn y ddau ddewis oedd
"Ydwyf, cytunaf y dylid sefydlu Cynulliad i Gymru/Yes I agree there should be an Assembly for Wales" a "Nac ydwyf, nid wyf yn cytuno y dylid sefydlu cynulliad i Gymru/ No, I do not agree there should be an Assembly for Wales"... neu rywbeth felly!
Mae fy nghof i yr un fath a dy un di Vaughan.
Cofio fod y swyddogion dychwelyd wedi cael ychydig o drafferth gan fod rhai bobl wedi dilyn naratif yr ymgyrch sgwennu 'Ie' neu 'Na' yn y bocys yn lle rhoi croes.
Mater reit anodd dybiwn i (ar lefel seicolegol a ieithyddol!)ydi ceisio gweithio allan bwriad rhywyn sydd wedi sgwennu 'Na' yn y blwch drws nesa i'r datganiad 'Nid wyf yn cytuno y dylid bod Cynulliad Cenedlaethol i Gymru'!
Ai dim ond "ydw" a ofynir, neu a fydd wdw, odw, otw, ac hyd oed otw otw yn cael eu cynnwys, er mwyn bod yn gynhwysol?
Nage dyna oedd un o'r cwynion ynglyn a'r refferendwm? Taw Ie a Nage oedd yr ymgyrchoedd, er taw Ydwyf a Nac ydwyf oedd yr atebion swyddogol?