³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sgrap ar yr iard

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Iau, 27 Mai 2010

logo1.gifBob tro rwy'n sgwennu ynghylch addysg Gymraeg Caerdydd rwy'n ymwybodol o'r cyhuddiadau fy mod yn bod yn blwyfol. Gan fy mod yn un sy'n taflu'r gath at y radio bob tro mae rhaglen o Fangor yn trafod ysgolion Gwynedd rwy'n ymwybodol iawn bod lle mae newyddiadurwr yn byw yn gallu effeithio ar ei ganfyddiad o werth stori!

Ar ôl dweud hynny oll rwy'n credu bod gan benderfyniad Carwyn Jones ynghylch ad-drefnu ysgolion cynradd Gorllewin Caerdydd oblygiadau y tu hwnt i'r llond dwrn o ysgolion oedd dan ystyriaeth. Dydw i ddim yn cofio'r un pwnc mawr neu fach sydd wedi achosi cymaint o ddrwgdeimlad rhwng dwy blaid y Llywodraeth yn y Bae.

Dyma i chi ran o ddatganiad swyddogol Plaid Cymru yn ymosod ar benderfyniad Prif Weinidog y Llywodraeth y mae'n rhan ohoni.

"Mae'r penderfyniad i wrthod y cynlluniau yma yn sarhad llwyr... mae hyn, mewn gwirionedd, yn gwadu hawl rhieni yng Nghaerdydd i ddewis addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n mynd yn groes i un o bolisïau blaenllaw strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth y Cynulliad.

Tro ar ôl tro, mae Llafur wedi gwrthod pob cynnig i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu addysg cyfrwng Cymraeg yn Gorllewin Caerdydd. Mae ACau Plaid wedi cefnogi cynlluniau'r cyngor yn gyson a byddant yn cefnogi'r awdurdod os ydynt yn penderfynu herio'r penderfyniad. Dyw plant a rhieni Ysgol Treganna ddim yn haeddu cael eu trin fel hyn."

Coeliwch fi, mae pethau llawer llawer gwaeth yn cael eu dweud y tu ol i'r lleni!

Yn breifat, mae ambell i wleidydd Llafur yn beio mudiad RhAG am y llanest gan honnu bod gan y mudiad hwnnw obesesiwn "diwynyddol" am gael ateb ar un safle. Mae rhai o bobol Plaid Cymru ar y llaw arall yn credu bod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn sicrhau mantais bleidiol a bod y cyhoeddiad wedi ei ohirio'n fwriadol er mwyn gallogi i Lafur roi'r wasgfa ar bleidlais y Cymry Cymraeg yng Ngorllewin Caerdydd yn ystod yr etholiad cyffredinol.

Boed felly. Y goblygiad gwleidyddol yw hwn. Er mwyn i glymblaid weithio'n effeithiol mae'n rhaid bod rhyw faint o ewyllus da a theimlad o ymddiriedaeth bersonol yn bodoli rhwng cynrychiolwyr y pleidiau. Mae'r penderfyniad hwn wedi rhoi cnoc sylweddol iawn i'r perthnasau personol rhwng aelodau Llafur a Phlaid Cymru.

Mae hynny'n gadael un cwestiwn. Fe wnes i nodi wythnos ddiwethaf bod Leighton Andrews wedi eithrio ei hun o gymryd y penderfyniad ar y funud olaf. Mae ambell i AC Plaid Cymru o'r farn bod Leighton wedi bwriadu rhoi sêl ei fendith ar y cynlluniau a bod rhywun neu rywrai o fewn y blaid Lafur wedi ei rwystro.

Dyw hynny ddim yn swnio'n debygol i mi ond dyw'r ffaith bod gwleidyddion un blaid yn fodlon damcaniaethu ynghylch cynllwynion dichellgar yn rhengoedd eu cynghreiriad ddim yn argoeli'n dda i ddyfodol y trefniant hwnnw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:54 ar 27 Mai 2010, ysgrifennodd Elin:

    O ran oblygiadau pellach mae'r penderfyniad hefyd yn codi cwestiynau mawr am bwrpas Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad. Un o hanfodion y strategaeth yw bod cynghorau yn mesur y galw am addysg Gymraeg. Mae'r galw yn gwbl amlwg yng Nghaerdydd ond mae'r llywodraeth yn rhwystro'r cygor rhag diwallu'r galw. Beth fydd yn digwydd os bydd siroedd eraill yn canfod galw am well darpariaeth addysg Gymraeg a'r llywodraeth yn eu tanseilio. Cymru'n Un - Iaith Pawb - mae'n joc erbyn hyn.

  • 2. Am 21:44 ar 27 Mai 2010, ysgrifennodd Gwerinwr o Gymro:

    Onid yw'n eironig fod Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i gynghorau sir gwledig Cymru gau ysgolion bychain am fod gormod o leoedd gweigion ynddynt, ac eto yng Nghaerdydd, lle nad oes digon o le mewn ysgol Gymraeg am fod gormod o ddisgyblion ynddi, mae'r Prif Weinidog ei hun yn gwrthod gweithredu er mwyn sicrhau bod digon o leoedd ar gael? Beth yn y byd mawr y mae Carwyn Jones yn disgwyl i Gyngor Caerdydd ei wneud rwan? Sut yn y byd y mae'r Cyngor yn mynd i ddatrys problem prinder lle yn Ysgol Treganna oherwydd gorboblogi? Mae'r penderfyniad yn gwbl warthus ac yn dangos pa mor uffernol o wrth-Gymreig yw'r Blaid Lafur. Gobeithio yr aiff y rhieni ati i herio'r penderfyniad drwy alw am adolygiad barnwrol. Mae hyn yn adlewyrchiad gwael ar ein democratiaeth.

  • 3. Am 12:39 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Mae Rhodri Morgan a Carwyn Jones yn olyniant o gynffonwyr Cymraeg eu hiaith sydd yn fodlon crafu i ragfarnau y di-Gymraeg . Mae miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd bellach. A yw'r asgwrn cefn a chydwybod gan y breision hyn i brotestio ? .

  • 4. Am 14:36 ar 28 Mai 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Oni ddylai Plaid Cymru ddod a'r glymblaid gyda Llafur i ben nawr ar sail egwyddor? Galla' i weld pam na fyddai'r glymblaid enfys yn apelio ar hyn o bryd serch hynny!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.