Treigl amser
Rwyf wedi gwrthsefyll y 'demtasiwn' i sgwennu cyn hyn ynglŷn â sylwadau David Cameron ddoe ynghylch dyddiad y refferendwm.
Fe ddaw hi pan ddaw hi, yn fy marn i ac mae 'na elfen o hwffian a phwffian yn y cyhuddiadau a'r gwrthgyhuddiadau gyda Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio sicrhau mantais gynnar yn eu perthynas.
Pa mor bwysig yw cwestiwn y dyddiad i'r Llywodraeth ac aelodau'r cynulliad mewn gwirionedd?
Wel, yn ddigon pwysig i'r Llywydd ganiatáu cwestiwn brys ynghylch y mater yn y Cynulliad y prynhawn yma. Wrth ateb y cwestiwn cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod wedi trefnu cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y mater.
A phryd fydd y cyfarfod hwnnw?
"Ar ôl gwyliau hanner tymor" wrth gwrs! Dim mor bwysig a hynny, felly!
Mae'r oedi'n awgrymu i mi bod y Llywodraeth yn derbyn bellach na fydd y bleidlais yn cael ei chynnal eleni ond nad ydynt yn fodlon cyfaddef hynny eto.
Hyd y gwelaf i, pwy bynnag sydd ar fai, fe fyddai angen benthyg y Tardis er mwyn cydymffurfio a'r amserlen angenrheidiol a dydw i ddim yn meddwl y byddai "Doctor Who a phwerau rhan pedwar Deddf Llywodraeth Cymru 2006" yn un o benodau mwyaf gafaelgar y gyfres honno!