Byw ar y radio
Mae 'na lawer yn gyffredin rhwng Meri Huws a Rhodri Williams. Roedd y ddau yn fawrion gyda Chymdeithas yr Iaith cyn symud ymlaen i gadeirio'r Bwrdd Iaith. Mae Meri yno o hyd wrth gwrs tra bod Rhodri bellach yn bennaeth ar Ofcom yng Nhymru.
Mae 'na ryw eironi rhyfedd felly yn y ffaith bod y Bwrdd newydd gyhoeddi ei fod am gymryd cam anarferol iawn sef "cyfeirio Ofcom at Lywodraeth y Cynulliad am fethu a llunio cynllun iaith yn foddhaol". Dydw i ddim yn cofio'r bwrdd yn cymryd cam felly o'r blaen.
Mae'r ddadl yn gymhleth ond yn y bôn mae'r Bwrdd o'r farn y dylai Ofcom osod amodau ieithyddol wrth ganiatáu trwyddedau gorsafoedd radio. Mae'r bwrdd yn credu bod gan Ofcom yr hawl i wneud hynny o dan Ddeddf Darlledu 1990 a Deddf Cyfathrebu 2003 a bod Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993, yn gosod dyletswydd arni i wneud hynny.
Mae Ofcom ar y llaw arall yn mynnu mai mater i'r darparwr yw iaith y gwasanaeth ac unig rôl y Swyddfa yw sicrhau bod yr orsaf yn cadw at y fformat yn ei thrwydded. Does gen i ddim clem pwy sy'n gywir.
Mae'r ddadl wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd. Rwy'n amau mai'r ffrwgwd ynghylch Radio Caerfyrddin a Scarlet FM wnaeth esgor arni. Efallai mai sefyllfa Radio Ceredigion sy'n gyfrifol am y datblygiadau diweddaraf. Ta beth mae'r Bwrdd wedi cael llond bol o ddadlau gydag Ofcom.
Mewn llythyr swyddogol at y Gweinidog Treftadaeth yn gofyn iddo ymyrryd dywed Meri Huws "nad oes diben i'r Bwrdd drafod ymhellach gydag Ofcom". Yn lle hynny mae'r Bwrdd yn gofyn i Alun Ffred Jones ddefnyddio'i bwerau statudol i osod cyfrifoldeb penodol ar Ofcom i sicrhau bod iaith yn ffactor wrth drwyddedu gorsafoedd ac i orfodi gorsafoedd i gynhrychu rhaglenni Cymraeg.
Oes hawl ganddo fe i wneud hynny?
"Oes" medd y Bwrdd.
Tybed beth yw barn Rhodri ?