Cerflun newydd arall...
Un o'r penodiadau gwleidyddol gorau yn y Bae yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd penderfyniad aelodau cynulliad Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru i fanteisio ar brofiad Phillip Nifield ynghylch sut i sicrhau sylw mewn papurau lleol.
Am bron i ddeugain mlynedd Phil oedd gohebydd gwleidyddiaeth a llywodraeth leol y South Wales Echo. "Sniffer" oedd ei lysenw ymysg newyddiadurwyr oherwydd ei allu i ffindio straeon difyr fyddai'n denu darllenwyr. Os ydych chi eisiau'ch enw a'ch gwep mewn print fe yw'r dyn i wneud i hynny ddigwydd.
Sicrhau cyhoeddusrwydd yw'r unig esboniad y gallaf feddwl amdano i esbonio obsesiwn Chris Franks ynghylch cerfluniau. Dim ond ychydig wythnosau sy 'na ers i Chris sefyll ar ei draed yn y cynulliad i alw ar Carwyn Jones i gefnogi codi cerflun o Fred Keenor arwr Dinas Caerdydd yn 1927 yn y brifddinas. Heddiw galwodd ar ei gyd-bleidiwr Alun Ffred Jones i gefnogi codi cerflun o'r bocsiwr Freddie Welsh ym Mhontypridd.
Roedd y Gweinidog yn ddigon dilornus. "Another day...another statue..." meddai Alun Ffred wrth ymateb.
Fe gafodd galwad Chris ynghylch Fred Keenor gryn dipyn o sylw ac mae'n siŵr ei fod e'n gobeithio am rywbeth tebyg yn achos Freddie Welsh. Dyma ambell i awgrym arall am gymeriadau o Ganol De Cymru sydd heb eto eu coffau mewn marmor neu bres.
Onid yw hi'n warth nad oes 'na gofeb i William Lott yn Aberdâr? Ef oedd rheolwyr Aberdare Athletic yn 1921-22. Hwnnw oedd tymor mwyaf llwyddiannus y clwb gyda'r tîm yn nawfed yn nhrydedd adran (ddeheuol) Cynghrair Lloegr.
Yn sicr mae Wilf Cude yn haeddu cerflun yn y Barri, tref ei enedigaeth. Pwy all anghofio ei dymor nodedig fel gôl geidwad y Philadelphia Quakers yn yr NHL yn 1930-31? Mae'n wir bod y tîm wedi mynd allan o fusnes ar ddiwedd y tymor ond manylyn yw hwnna.
Rwy'n sicr bod 'na eraill yr un mor haeddiannol mewn campau megis rasio colomennod a phêl fas. Os ydy Chris yn llwyddo i'w hanrhydeddu nhw i gyd fe fydd e'n haeddu gwobr- neu gerflun hyd yn oed.
SylwadauAnfon sylw
O na, plîs! Mae digon o flabby bronzes ystrydebol yn ein strydoedd. Cadwch yr arian am ysgoloriaeth ar gyfer hyfforddiant cerflunwyr o safon a gweledigaeth.