Cnoi Cil
Rwy'n gallu bod yn berson trachwantus braidd. Da yw pôl ond gwell yw dau!
Mae'r ffaith bod ITV wedi comisiynu arolwg misol gan YouGov o hyn tan etholiad y cynulliad yn newyddion rhagorol. Rydym wedi mynd o fod yn ddall i fod yn llygeidiog! Y broblem yw wrth gwrs bod dibynnu'n llwyr ar un cwmni yn golygu nad oes modd synhwyro na chanfod unrhyw wall neu ragfarn anfwriadol yn y fethodoleg. Ar ôl hynny o rybudd bant a ni a thipyn bach o ddadansoddi!
Yr hyn sy'n ddiddorol yn yr arolwg yw'r awgrym bod yr hyn y byddai dyn yn disgwyl ei weld rhwng nawr a Mai 2011 sef adferiad yn y gefnogaeth i Lafur wedi digwydd llawer yn gynt na'r disgwyl.
Mae'r canran sy'n bwriadu pleidleisio i Lafur yn etholiad y cynulliad wedi cynyddu o 32% i 42% ers yr etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddigon i Lafur sicrhau mwyafrif flwyddyn nesaf. Mae'r gefnogaeth i Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ond wedi gostwng o ychydig bwyntiau. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol sydd, mae'n ymddangos yn ceisio gweithio talcen caled iawn ar hyn o bryd.
Mae'r rheswm am y newid yn weddol amlwg. Mae 43% yn credu bod toriadau San Steffan yn mynd yn rhy bell o gymharu â 36% sy'n cefnogi'r toriadau ac 8% fyddai'n dymuno gweld mesurau llymach.
O dan y fath amgylchiad dyw hi ddim yn syndod i weld cefnogwyr traddodiadol Llafur yn dychwelyd at y blaid y maen nhw'n credu bydd yn gwneud ei gorau i'w hamddiffyn.
Ond mae'n ymddangos bod y bobol hynny yn disgwyl cael eu hamddiffyn gan rywbeth fwy na'u plaid sef y Cynulliad. Mae'r arolwg yn awgrymu y bydd Cymru'n pleidleisio o blaid cynyddu pwerau'r cynulliad o fwyafrif sylweddol yn y refferendwm. Mae mwyafrif yr ochr "Ie" dros yr ochr "Na" bellach yn 27% o gymharu ag 16% adeg yr etholiad cyffredinol.
Os ydy hynny'n gywir mae'n ddatblygiad hynod ddiddorol yn ein gwleidyddiaeth gan awgrymu bod trwch y bleidlais Lafur bellach yn uniaethu a datganoli. Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen hyd yn oed yn nyddiau Keir Hardie!
28-30/06 2010 Sampl 1001
SylwadauAnfon sylw
Duw a'n help ni.....llywodraeth Lafur hyd dragwyddoldeb yma yng Nghymru!:-(
Hmm - felly mae Llafur yn cynyddu o 10% ers yr Etholiad Cyffredinol tra bod pleidlais Plaid Cymru wedi aros yn statig.
Yn yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru cafodd Llafur 36.2% o'r bleidlais. Felly byddai'r cynydd yn 5.8% petai'r pol yn gywir. Cafodd Plaid Cymru 11.3%, felly byddai yna gynydd yno hefyd o 8.7%.
'Dwi'n cymryd mai cymharu efo'r Etholiad Cynulliad diwethaf wyt ti ac nid yr Etholiad Cyffredinol.
Dwi'm dallt sut mae'n syndod. Mae'r Cymry bob amser, yn gwbl ddi-ffael, yn troi'n ôl yn gyflym at Lafur pan fydd y Ceidwadwyr mewn grym. Dwi'n meddwl y gall y tair plaid arall ddisgwyl crasfa yn 2011.
Pwy seddi 'ych chi'n rhagweld yn mynd i Lafur iddynt ennill mwyafrif, Vaughan? Sai'n credu byddai unrhy seddi rhanbarth yn mynd (cywirwch fi os ydw i'n anghywir!), nag ychwaith i seddi coll y Dem Rydd fynd at Lafur. Bydd y mathemateg yn ddiddorol wrth nesu at yr etholiad!
Sori, fe ddylwn i wedi bod yn fwy eglur. Bwriadau pleidleisio cynulliad yn arolwg YouGov adeg yr etholiad cyffredinol yw sail y gymhariaeth nid canranau pleidleisio'r etholiad seneddol.
Iestyn, Mae na adrefnuu ffinau wedi bod ers y tro diwethaf i Lafur gael mwyafrif wrth gwrs, ond fyddwn yn amau bod Llafur yn sicr yn llygadu Blaebnau Gwent, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Llanelli, Preseli a Gorllewin Caerfyrddin. Gallai'r tair olaf arwain at goli seddi rhestr wrth gwrs. Er mwyn sicrhau mwyafrif felly fe fydd yn rhai i Lafur fentro ymhell i dir y gelyn mewn llefydd fel Canol Caerdydd a Mynwy. Dyw Llafur ddim wedi ennill y naill na'r llall a'r lefel cynulliad ond dyw'r blaid ddim wedi ennill mwy na 40% o'r bleidlais o'r blaen.
Rhaid derbyn mai pôl cenedlaethol yw hwn wrth gwrs, a bydd ffactorau lleol yn cael effaith mawr ar nifer seddi y gwahanol bleidiau. Dwi'n credu y bydd Helen Mary Jones yn saff yn Llanelli e.e., mae ganddi gefnogaeth dda iawn yn lleol. Dwi hefyd yn credu bod gan Nerys Evans gyfle gwych i gipio Gorllewin Caerfyrddin. Mae ei phroffil hi yn uchel iawn yn yr ardal, ac nid yw Angela Burns wedi gwneud braidd dim yno. Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd effaith y sawl sy'n sefyll ar y rhestr ranbarthol i lwyddiant eu pleidiau yn yr etholaethau yn y de orllewin. Gydag enw mawr iawn ar dop rhestr y Blaid yn y Gorllewin a'r Canolbarth (fel sy'n debygol o fod - gwyliwch y gofod) a fydd hyn yn rhoi hwb i ymgyrchoedd ymgeiswyr y Blaid yn yr etholaethau? A gyda llwyddiant yn yr etholaethau bydd llai o siawns cael sedd ranbarthol. Mae'n gymhleth!!
Ychydig oddi ar y pwnc efallai, ond ydych chi'n credu y bydd pleidleiswyr wedi hen danto ar ddemocratiaeth erbyn etholiadau'r Cynulliad gyda refferendwm ar bwerau ym Mis Mawrth, Referendwm newydd ei gadarnhau ar newid y system bleidleisio (Brydeinig) ym Mis Mai, ac etholiadau Cynulliad rhywbryd, yn dibynnu os ydyn nhw'n mynd i newid y dyddiad ai peidio.
Tybed pe effaith geiff hynny ar gyfran gwahanol bleidiau?
Cael pobol i bleidleisio yn y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen fydd yn anodd yn fy marn i. Rwy'n amau y gallai honna gael ei cholli. Os felly fe fydd y tymheredd gwleidyddol yn uchel erbyn yr etholiad.