Cyfri Ceiniogau
Dyna i chi'r gyllideb, felly. Y gyllideb "anochel" yw hi yn ôl clymblaid newydd San Steffan. Cyllideb "ideolegol" yw hi i Lafur ar y llaw arall. Mae 'na elfen o wirionedd yn y ddau ddisgrifiad, dybiwn i.
Gall neb wadu maint y ddyled na'r angen i ddileu'r diffyg ariannol. Mae'r diffyg yn un sylweddol ac yn rhannol strwythurol gan ddyddio yn ôl i 2001. Heb fesurau i ddelio a'r diffyg mae'r ddyled yn sicr o gynyddu ond dyw honno ddim eto wedi cyrraedd lefelau argyfyngus. Mae hi'n is na chyfartaledd y ddyled yn ystod yr ugeinfed ganrif ond mae'r peryglon yn amlwg.
Ar y llaw arall mae honiad George Osborne bod y gyfran o gyfoeth y wlad sydd yn nwylo'r llywodraeth yn un ideolegol. Gall pawb gytuno ar yn angen i gydbwyso incwm a gwariant y wladwriaeth ond penderfyniad gwleidyddol yw'r un ynghylch ar ba lefel y dylid gwneud hynny.
Amcangyfrifir mai 45.1% o'n cyfoeth sydd yn nwylo'r wladwriaeth eleni. Yn hanesyddol mae hynny'n uwch na'r cyfartaledd ond dyna sy'n digwydd mewn dirwasgiad. Roedd y canran yn uwch yn 1980 a 1981, er enghraifft. Dydw i ddim yn cofio pwy oedd y Prif Weinidog ar y pryd- Margaret rhywbeth, dwi'n meddwl!
Ta beth am hynny roedd y gyllideb yn wleidyddol yn un gelfydd. Os am gynyddu treth ar werth, er enghraifft, nawr yw'r amser i wneud hynny gyda'r Llywodraeth o hyd yn gallu llwytho'r bai ar ei rhagflaenwyr.
Roedd rhannau o'r system fudd-daliadau yn dargedau hawdd. Faint o'r arian yna y mae merched beichiog yn derbyn sy'n cael ei wario ar ffrwythau, mewn gwirionedd? Mae gosod uchafswm ar fudd-dal dai hefyd yn debyg o apelio at y papurau hynny sy'n llenwi eu tudalennau a straeon ynghylch pobol sy'n cymryd mantais o'r system.
O wneud swm bach sydyn fe fydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn golygu toriadau o ryw hanner biliwn o bunnau yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Mae toriadau eraill hefyd yn cael effaith ar Gymru wrth gwrs. £27 biliwn yw cyfanswm gwariant cyhoeddus yng Nghymru a dim ond £16 biliwn o'r arian sy'n cael eu sianelu trwy'r bae.
Doedd y newyddion ddim yn ddrwg i gyd o safbwynt Llywodraeth Cymru. Roedd 'na gynsail allai fod yn bwysig iawn i Gymru yn y gyllideb hon. Fel mae'n digwydd roeddwn i'r gwylio'r gyllideb yng nghwmni Rhodri Morgan. Cafodd y cyn prif weinidog ei gyffroi gan y cyhoeddiad bod Llundain a De-ddwyrain Lloegr yn cael eu heithrio o'r newidiadau yn y system yswiriant cenedlaethol sydd wedi eu cynllunio i helpu busnesau bach newydd.
Yn ôl Rhodri, ac efe ddylai wybod, hwn yw'r tro cyntaf erioed i dreth Brydeinig gael ei amrywio rhwng gwahanol ranbarthau economaidd. Gallai hynny fod yn hynod bwysig yn y dyfodol wrth drafod pynciau megis amrywio'r dreth gorfforaethol.
SylwadauAnfon sylw
Roedd sylwadau Eleanor Burnham am y codiad yn TAW gyda'r gwaethaf rwy erioed wedi clywed gan unrhyw wleidydd. Sut ar y ddaear etholwyd hi?