Treigl amser
Fedra i ddim dweud pa mor ddiflas rwy'n ffeindio straeon ynghylch dyddiad y refferendwm. Os fuon 'na ddadl fwy amherthnasol i'r etholwyr a lle bu gwleidyddion yn fwy plentynnaidd wrth daflu cyhuddiadau at ei gilydd dydw i ddim yn ei chofio.
O safbwynt newyddiadurwr gwleidyddol mae'r helynt wedi datgelu pethau difyr ynghylch cymeriadau rhai o'n gwleidyddion a'u perthynas a'i gilydd. Ar wahân i hynny beth ar y ddaear yw'r ots os ydy'r bleidlais yn cael ei chynnal yn yr Hydref neu'r Gwanwyn?
Yn ei datganiad heddiw mae Cheryl Gillan yn awgrymu'n gryf mai ar Fawrth 3ydd y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal. Dyw e ddim yn ymddangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno a'r dyddiad hwnnw ond yn sicr dyna yw'r un mwyaf tebygol.
Fe fyddai hynny'n golygu pleidlais yn wythnos Gŵyl Ddewi a chyfle i ymgyrchu yn ystod gemau'r chwe gwlad- dwy ffactor yr oed ymgyrchwyr "Ie" 1979 yn gweld fel rhai allweddol o'u plaid!
Beth bynnag am hynny fe fydd yr oedi yn caniatáu rhagor o amser i gefnogwyr pwerau pellach drefnu eu hymgyrch. Mae'r methiant i wneud hynny hyd yma yn rhyfeddu dyn braidd. Mae'n ymddangos mai Llafur sydd wedi bod yn llusgo traed, sefyllfa ryfedd o gofio mai'r blaid honno oedd mor awyddus i'r bleidlais gael ei chynnal yn yr Hydref.
Fe fydd arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad yn cwrdd â'i gilydd nos yfory. Efallai y daw rhywbeth allan o hynny. Dydw i ddim yn dal fy anadl!
SylwadauAnfon sylw
Mae Cymru am guro Lloegr gyda'r bel gron hefyd tua diwedd mis Mawrth 2011.