Y cwestiwn
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd gyhoeddi ei hawgrym hi ar gyfer y rhagymadrodd a'r cwestiwn ar gyfer refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad. Dyma nhw;
Rhagymadrodd
Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol (y Cynulliad) y pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai pynciau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r amgylchedd. Caiff y Cynulliad ennill mwy o bwerau i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli trwy gael cytundeb gan Senedd y Deyrnas Unedig, a hynny fesul pwnc.
Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio 'Ydw' yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi'u datganoli. Os bydd y rhan fwyaf yn pleidleisio 'Nac Ydw', bydd y trefniadau presennol - sef trosglwyddo'r hawl i ddeddfu bob yn damaid, gyda chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig bob tro - yn parhau.
Y Cwestiwn
Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cynulliad gael pwerau yn awr i ddeddfu ar yr holl bynciau yn y meysydd sydd wedi'u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y Deyrnas Unedig yn gyntaf?
RHOWCH X MEWN UN BLWCH YN UNIG
Ydw, rydw i'n cytuno
Nac ydw, dydw i ddim yn cytuno
Cwestiwn Arall
Ydych chi'n dioddef o ben tost ar ôl darllen hwnna?
SylwadauAnfon sylw
Ydwyf - pen tost. Mae'r Gymraeg yn lletchwith iawn yn y Rhagymadrodd, ond yn weddol glir yn y Cwestiwn.
Gyda llaw, byddwn yn sôn am "rymoedd" deddfwriaethol, nid "pwerau". Mae pŵer yn gyfystyr ag "egni"; grym â "gallu".
erm, na emlyn, dyw "grym" ddim yn gyfystyr a "gallu", ond yn hytrach yn gyfieithiad uniongyrchol o "force" yn saesneg. Grym disgyrchiant er engrhaifft, neu rym natur. Pwy oedd ddim yn gwrando yn ei wersi ffiseg yn yr ysgol?... :)