Cwis haf (6)
Dyma'r cwis olaf, am y tro! Yn unol â'r addewid Plaid Cymru yw'r thema y tro hwn.
1. Fe arweiniodd Ysgrifennydd cyntaf Plaid Cymru, H. R. Jones, ymgyrch i newid enw pentref "Ebeneser" yn Sir Gaernarfon. I beth?
2. Casgliad o ethyglau gan bwy oedd "Toward's Welsh Freedom"?
3. Yn 1967 fe ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i ennill Gorllewin y Rhondda mewn isetholiad ond fe ddigwyddodd rhywbeth ac arwyddocâd hanesyddol yn yr un etholaeth yn 1945. Beth?
4. Beth sy'n cysylltu "Colli Iaith" a "Congratulations"?
5. Pa Aelod Cynulliad Plaid Cymru aeth dros ben llestri braidd gyda'r efylychiad yma o Martin Luther King?
I have a dream: to board a train in Cardiff , travel to Ebbw Vale and visit that area, take a train to Cwm-carn , before taking a scenic drive to see Twmbarlwm, where the bees met the crows in the prehistoric fort ; travel by canal boat from Cwmcarn through Crosskeys , Risca , Pontymister to Rogerstone, and go, via Fourteen Locks -- which I am sure people from all over the world would visit -- to Newport marina to board a sea-borne boat to sail to the Kennet and Avon canals, or turn around in the direction of Cwmbrân to end up in Brecon
6. Hyd yma mae ymdrechion Dafydd Wigley i gyrraedd TÅ·'r Arglwyddi wedi eu rhwystro ond fe wnaeth dau ymgeisydd arall yn etholiad Chwefror 1974 yng Nghaernarfon lwyddo i gyrraedd y meinciau cochion. Enwch nhw.
7. Cyn 1990 pwy oedd yr unig aelod o Blaid Cymru i ennill sedd ar Gyngor Dinas Caerdydd?
8. Fe ddaeth awdur y "Judas Letter" yn y chwedegau yn un o arwyr mawr y blaid yn y saithdegau. Pwy oedd e?
9. Cyhoeddwyd y "Welsh Nation" yn wythnosol am gyfnod yn y saithdegau. Pa newyddiadurwr amlwg o'r Western Mail oedd yn olygydd?
10. Deg o bobol sydd wedi cynrychioli Plaid Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin. Mae dau ohonynt wedi cynrychioli etholaeth lle bu dau arall yn ymgeiswyr aflwyddiannus. Enwch yr etholaeth a'r aelodau.
SylwadauAnfon sylw
Heb Gwgl, Wiki neu unrhyw gymorth electroneg....
1.Deiniolen
2.DJ Davies
3.Etholwyd Will John heb wrthwynebiad(y tro olaf i hyn ddigwydd yng Nghymru)
4 Harri Webb! (Da iawn Vaughan!)
5 Brian Hancock?
6.Goronwy Roberts, Tristan Garel Jones.
7.Dafydd Huws
8.Emrys Roberts efallai?
9. Clive Betts
10 Meirionydd - Dafydd El a Elfyn Llwyd, Dafydd Wigley a Gwynfor Evans yn methu ym Meirion
1. Deiniolen
2. D. J. Davies
3. Llafur oedd yr unig ymgeisydd
4. ?
5. Chris Franks?
6. Goronwy Roberts a Tristan Garel Jones
7. ?
8. Emrys Roberts
9. Clive Betts
10. Meirionnydd. Y ddau fu'n cynrychioli: Dafydd Elis Thomas ac Elfyn Llwyd. Y ddau na fu'n llwyddiannus yno: Gwynfor Evans a Dafydd Wigley.
Dwi'n gwybod 1 - 4, hanner 6 a hanner 10.
Siwr bod rhywun yn gallu gwneud yn well na hynna!
1. Deiniolen
2. D.J. Davies
3. William John yn cael ei ethol yn ddi-wrthwynebiad. Y person olaf ym mhrydain
4. Y ddau Harri/y Webb!
5. Phill Williams
6. Goronwy Roberts a Tristan Garel Jones
7. Dafydd Williams - y Tyllgoed
8. Emrys Roberts
9. Clive Betts
10. Meirionydd - Dafydd Elis-Thomas ac Elfyn Llwyd yn llwyddianus. Gwynfor Evans a Dafydd Wigley yn aflwyddianus.
C'mon Vaughan.....atebion!!!
Heb geisio ateb, ond yr oedd W.J. Gruffydd yn wrthwynebus iawn i ymgyrch H.R. Jones . Teimlai ei fod yn dibrisio enw'r plwyf (Llanddeiniolen) i enwi pentref ar ol ail ran yr enw. Ta waeth, 'Llanbabo' yw'r enw ar lafar gwlad ! . Bu farw H.R. Jones yn ifanc, ond am gawr o genedlaetholwr i gymharu gyda corachod presennol y blaid.