Trysorau cudd
Os ydych chi'n darllen y blog yma'n gyson efallai eich bod chi'n amau fy mod dipyn o sinig. I brofi nad yw hynny'n gwbl wir rwyf am ddweud yn gwbl onest mai maes Eisteddfod Blaenau Gwent yw'r mwyaf difyr, diddorol ac amrywiol ei gynnwys i mi gofio.
I ryw un fel fi sy'n treulio mwy o amser ym Mhabell y Cymdeithasau nac unrhyw babell arall mae gan Flaenau Gwent fantais amlwg. Nid Pabell y Cymdeithasau sydd yma ond pebyll! Mae 'na ddau ohonyn nhw yn cynnig ystod eang o gyfarfodydd a darlithoedd difyr. Ddoe, er enghraifft es i fwy neu lai yn syth o ddarlith Rhodri Morgan ynghylch Aneurin Bevan ym mhabell un i wrando ar Helen Prosser yn trafod Niclas y Glais ym mhabell dau. Roedd y ddau gyfarfod mwy neu lai'n llawn.
Yn anffodus mae rhai o atyniadau gwych eraill y Maes yn gymharol wag a hynny oherwydd eu bod yn eithaf anodd eu canfod. Rwy'n casglu mai atyniadau a drefnwyd yn annibynnol o'r Eisteddfod yw'r rhain ac yn anffodus mae rhai ohonyn hwn bron yn gudd y tu ôl i stondinau'r Eisteddfod eu hun.
Mae bois Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon yn gallu canu chwiban i dynnu sylw at eu trên stem y tu ôl i'r Babell wyddoniaeth. Dyw pobol y wifren sip a'r gerddi cymunedol sydd hefyd yn rhan ddeheuol y maes ddim mor ffodus.
Mae 'na lu o atyniadau eraill milltir i'r gogledd ym mhen arall y Maes. Ydy, mae'r lle mor fawr â hynny! Ewch heibio'r traeth(!) wrth ymyl cylch yr orsedd a dilynwch yr arwyddion i hen swyddfeydd ysblennydd y gwaith dur lle mae 'na lwyth o bethau difyr i weld a gwneud.
Un peth sy ddim yma hyd y gwelaf i yw'r faniau llaeth oedd yn gymaint rhan o'r Eisteddfod ers talwm. Roedd rheiny yn fodd i dorri syched tra'n dysgu geiriau crand fel ffrwchnedd a mafon i genedlaethau o blant! Dyw Steddfod ddim yn steddfod heb ysgytlaeth rhywsut!